Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Protestio dros feddygfa Cerrig yng Nghorwen Newid er mwyn newid?
Tachwedd 2005
'Rydym ni yn byw mewn ardal mor braf. Mae Cymru yn yr haf yn lle mor fendigedig gyda'i llynnoedd llonydd, ei bryniau gwyrddion a'i mynyddoedd urddasol ...
...gyda'r defaid yn pori yn braf yma ac acw a'r cerddwyr yn mwynhau eu hunain yn yr heddwch braf 'yng nghanol golygfeydd godidog.

I'r bobl hyn mae'r wlad i'w gweld yn ffynnu. Mae'r mân drefi a phentrefi yn llawn bwrlwm, y siopau yn brysur a'r tafarndai a'r tai bwyta yn llawn o bobl.

Mae y rhan fwyaf o gyfoeth welir yn yr ardal, yma, oherwydd y tirwedd a'r golygfeydd hardd sydd o'm hamgylch ym mhob man. Yn gyfrifol am y tirwedd fel y mae ar hyn o bryd mae'r ffermwr gyda'i ddulliau traddodiadol o ffermio, trwy reoli tir ai gadw dan reolaeth i bawb gael ei fwynhau. 'Rydym yn ffodus iawn yn ardal yr Odyn fod llawer iawn o deuluoedd wedi bod yn ffermio yma ers cenedlaethau. Llawer wedi etifeddu eu ffermydd gan ei rhieni, mae digonedd o hanesion diddorol yn perthyn i'r ffermydd hyn sydd i'w gweld hyd a lled y wlad.

Wrth i deithwyr edrych allan o'u cerbydau wrth drafaelio ar hyd y ffyrdd ym mis Mai neu Fehefin mae'r wlad o amgylch yn edrych yn lle mor ddelfrydol i fyw ynddo. Gwêl y teithwyr y ffermwr gyda'i gi (ai feic pedair olwyn wrth gwrs) yn casglu diadell o ddefaid ar y mynydd yn barod i'w cneifio, neu yn nes ymlaen caeau wedi eu clirio o wair, ac yn edrych fel tapestri lliwgar ar noson braf ym mis Awst. Wrth edrych ar y wlad drwy ffenest y car mae popeth yn edrych mor berffaith. Ond o agor y drws i gael golwg fanylach mae pethau yn bur wahano!. Erbyn hyn mae penbleth ac argyfwng o'n cwmpas. Popeth yn newid a neb am wrando. Mae yn rhaid i'r byd fynd yn ei flaen wrth gwrs, ond oes angen newid pethau sydd wedi gweithio'n rhagorol ers blynyddoedd?

Mae'r ffermwyr yn gweithio oriau hir a'i incwm ar y diwedd yn llawer is nac y bu, gwragedd ffermydd yn gorfod mynd allan , weithio i gadw dau ben linyn ynghyd, meibion ffermydd yn edrych am waith tu allan i'r fferm deuluol, ac os daw hi yn amser prynu tŷ, wel anghofiwch hynny. Bydd y teithwyr sydd wedi dotio at y lle wrth drafaelio trwy'r wlad a digon o fodd i brynu tŷ yn gwneud yn siŵr na all neb lleol gael cyfle am un! Wrth i ffermydd orfod mynd yn fwy i gadw mewn busnes, mae mwy o arian ar gael i'r ffermwyr erbyn hyn trwy werthu tai fferm am bris uchel fel ail gartrefi a thrwy hyn gwelwn gefn gwlad yn cael ei diboblogi a'r gymdeithas Gymreig yn dirywio.

Ond pwy o'r tu allan sy'n poeni? Mae cadw pobl yn ffermio ac yn cyflenwi bwyd i'r boblogaeth wedi mynd yn ddibwys. Mae gwylio ar ôl y tir ar amgylchedd yn bwysicach erbyn hyn, a'r cerddwyr wedi cael hawl mynediad i rannau o gefn gwlad a chroeso iddynt, ond iddynt beidio anghofio mai yma y mae ffermwr yn gwneud ei fywoliaeth ac iddynt barchu hynny trwy wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyn cychwyn.

Mae'r archfarchnadoedd wedi lladd ein siopau bychain ac yn rheoli prisiau mae'r ffermwyr yn cael am ei gynnyrch. Nid oes swyddfa bost llawn amser ar gael, os oes un o gwbl. Cyn hir bydd yn costio mwy i bostio llythyr i gefn gwlad os caiff y llywodraeth ei ffordd.

Erbyn hyn 'rydym yn cwffio yma yn ardal Uwchaled i gadw ein meddygfa leol yn annibynnol. Yma eto gwelwn bobl o'r tu allan yn dod i fewn ac yn meddwl eu bod yn gwybod beth sydd orau er ein lles trwy gynnig cytundeb amhoblogaidd am ein meddygfa sydd' wedi cynnal gwasanaeth gwych i'w chleifion ar hyd y blynyddoedd. Yn y pen draw y gobaith yw i gael y cleifion i fynychu un ganolfan fawr filltiroedd i ffwrdd, er mwyn cael arbed arian. Er i'r bobl leol fynd ati i brotestio, maent yn gyndyn iawn o gymryd unrhyw sylw. Ond yn dilyn cyfarfod rhwng aelodau o bwyllgor y protestwyr, meddygon ' Meddygfa'r Berwyn ac aelodau o'r Bwrdd Iechyd Lleol gobeithiwn fod ychydig o oleuni erbyn hyn ar ôl yr holl waith caled a'r protestio, ac y gwnaiff pobl o'r tu allan wrando ar lais y bobl leol y tro hwn a chadw meddygfa Cerrig yn annibynnol.

Mae meddygfa annibynnol wedi bod yng feddyg. Fe'i dilynwyd gan Dr Huw Hughes Davies a Dr Issac ac yn ddiweddarach Dr Ivor Davies, Dr Edward Davies a Dr Geraint Owen. 'Maent yn gwasanaethu ardal wledig eang ac mae yn hanfodol ein bod yn cael cadw'r gwasanaeth sydd gennym.

Ydi, mae'r wlad o amgylch yn hardd iawn cyn belled, ond peidiwch ag aros yma i geisio prynu torth na stamp, a da chi peidiwch â mynd yn sâl neu bydd yn rhaid teithio milltiroedd cyn hir i gael triniaeth.

Ydi, mae newid pethau yn iawn os ydyw er gwell, ac heb ddifetha'r pethau da sydd wedi gweithio ers amser maith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý