Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Jane, Stephen Parry a Nerys Gwobrau Chwaraeon 2007
Rhagfyr 2007
Ar nos Wener, 9fed Tachwedd 2007 cynhaliwyd noson Gwobrau Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Conwy yn Venue Cymru, Llandudno.
Roedd Jane Roberts, Pennant a Nerys Ellis, Hafod Ifan wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr yng nghategori Hyfforddwr Gwirfoddol y Flwyddyn.

Mae Jane a Nerys yn wragedd fferm gweithgar iawn; a'r ddwy fel ei gilydd wedi bod yn rhoi eu hamser yn wirfoddol ers dros 25 mlynedd i redeg Clwb Nofio Llanrwst, ac yn athrawon nofio cymwysedig - yn codi allan bob nos lau boed hi'n lifogydd, eira neu'n amser wyna! Mae'r ddwy hefyd wedi bod yn cynnal gweithgareddau i godi arian er mwyn sicrhau fod y clwb yn parhau.

Mae'r clwb yn cael ei gynnal bob nos lau yn ystod tymor yr ysgol, ym Mhwll Nofio Llanrwst o 6 o'r gloch hyd 9 o'r gloch, gyda dros 100 o blant yn derbyn gwersi nofio yn ystod y tair awr. Yn sicr heb eu hymroddiad a'u gallu, buasai llawer iawn o blant ardal yr Odyn ddim yn medru nofio cystal! Mae amryw o'r plant hyn wedi ennill cystadlaethau nofio boed yn unigol, efo'r ysgol neu yr Urdd.

Mae'r rhieni yn dod a'u plant i'r Clwb Nofio o ardaloedd megis Cerrigydrudion, Nebo, Ysbyty Ifan, Betws-y-Coed, Llangernyw a Llanddoged - gan ddim ond enwi rhai ac eraill hyd yn oed yn dod i fyny o'r glannau.

Meistr y Seremoni oedd Arthur Emyr, (cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol) sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cymru i'r Gemau Olympaidd yn 2012. Roedd cyfanswm o 12 gwahanol gategori ar y noson, gyda rhestr derfynol wedi ei fyrhau i 3 person ym mhab categori. Coeliwch chi fi - roedd hi'n noson ffansi, ac ar yr un arddull a'r 'Oscars'! ble roeddent yn dangos clip fideo o'r cystadleuwyr terfynol cyn i Arthur Emyr ddatgelu "... ..a'r enillydd yw".

Yn berthnasol iawn i Jane a Nerys, y gŵr gwadd arbennig oedd Stephen Parry o Lerpwl sef capten tîm nofio Prydain yng Ngemau Olympaidd Athen 2004.

Deilydd presennol record Prydain am nofio pili-pala 200m (1.55.42) - record a osododd pan enillodd y fedal Efydd yn Athen.

Er na ddaethant i'r brig y tro hwn, roeddent wedi gwneud yn ardderchog i gyrraedd y rownd derfynol, ac yn sicr y ddwy yn hollol haeddiannol o'r wobr am roi eu hamser dros gynifer o flynyddoedd i helpu eraill a hynny'n hollol ddi-dâl.

Llongyfarchiadau, da iawn chi, a daliwch ati.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý