Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Pedolau mul Owen Ifan, Sychbant Pwt o'r oes a fu!
Medi 2007
Hanes un o hen gymeriadau ardal Melin y Coed, Owen Ifan, "Sychbant"
Efallai y cofiwch am ychydig o hen hanes ardal Melin y Coed yn rhifyn Mehefin o'r Odyn, a dyma fentro ar ychydig eto.

Un o hen gymeriadau'r ardal oedd Owen Ifan, "Sychbant", ar droad y ganrif ddiwethaf a chyda'i drol a mul 'roedd o'n cario glo o amgylch y pentref ynghyd â chario blawd o'r felin.

'Roedd o'n gymeriad syml, diniwed yn ôl yr hanes ac yr oedd lIanciau direidus yr ardal yn bur hoff o chwarae castiau ag o.

Un dydd a'r hen Owen Ifan wedi mynd am seibiant gan adael y drol a'r mul y tu allan i'w drigfan, aeth rhai o'r llanciau â'r drol a mul tuag at giat-mochyn gyfagos ac yna dadfachu'r drol a gwthio ei "siafftia" trwy ffyn y giat ac yna ail fachu yr hen ful yr ochor arall a mynd i guddio.

Gwelwyd y perchennog yn dod a throi o amgylch y sefyllfa mewn syndod. Bu iddo ganmol ar hyd a lled y pentref ar ôl hyn am orchest a champau'r hen ful.

Un o arferion trigolion y pentref oedd mynd yn wythnosol i un o'r ffermydd i gael eu mesur arferol o laeth-enwyn a phwys o fenyn ac, er mwyn i'r menyn gadw'n ffres, ei roi yn y piser i nofio yn y lIaeth enwyn i'w gario adref.

Mae ychydig o drigolion y fro yn dal i gofio hanes arwerthiant eiddo Owen Ifan ar ôl iddo ffarwelio â'r byd yma. Bu i gwmni "Rogers Jones" o Lanrwst ar ryw bnawn Sadwrn werthu ei glocsiau, y faedda a'r moddion trin menyn ac, wrth gwrs, y drol a'r mul ynghyd â'r "gêr" a'r manion o'I gwmpas.

T J D


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý