Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Siân Rhun - Actores Orau gyda Maldwyn John Gŵyl Ddrama'r Odyn
Os na chawsoch chi'r cyfle i ymuno yn yr hwyl yn Neuadd Betws eleni, wel, fe gawsoch golled.
Llond trol o hwyl a chwerthin gyda sawl un o'r gynulleidfa'n edrych yn ôl ar y noson gan fynegi sylwadau megis roedd fy ochrau'n brifo ar ôl chwerthin cymaint neu mae'n siŵr fod yna olwg ar fy ngwyneb wedi'r masgara lithro gyda'r holl ddagrau o chwerthin.

Tair drama mewn un noson gyda'r beiriniad anhygoel, Maldwyn John o Fethel yn cloi'n ardderchog ac yn llawn hiwmor. Diolch cynnes iddo fo am gadw at ffraethineb y noson. Sylwadau megis y cyfeiriad at sylw gwraig a eisteddai wrth ei ymyl pan gyfeiriodd honno at y ffaith fod cast ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan wedi cael hwyl wrth ddysgu'u drama. 'Dysgu' meddai'r beirniad gan godi'i aeliau'n awgrymog. Cafwyd sawl sylw bachog tebyg ganddo gyda'r gynulleidfa enfawr yn werthfawrogol iawn o'i sylwadau.

Cofiwch nid 'Mr Williams' o enwogrwydd y gyfres '9 tan 9' oedd yr unig un i fod yn ffraeth. Clywyd un o'r Gweinidogion lleol yn ebychu'n groch ar ddiwedd drama Padog ei fod wedi bod yn gwylio "drama smashing" ac roedd yn rhaid ichi fod yn bresennol i weld pwynt y sylw yma.

Cafwyd ambell i sylw edmygus a rhai anweddus am goesau 'Iola Hughes' yn nrama Penmachno hefyd. Yn sicr, nid yma yw'r lle i'w hailadrodd.

Mentrodd cwmni Padog am y tro cyntaf ers blynyddoedd o'r difrif i'r digrif wrth berfformio cyfieithiad Richard Morris Jones o ddrama gan y Gwyddel Sean o'Casey sef, "Dechrau'r Diwedd". Ni welwyd erioed cymaint o falu llythrennol ar y llwyfan - nid malu cacan choclet na malu baw neu g... ond malu gwydr a thegan o bob math.

Torri rhannau o'r corff hefyd a choeliwch chi fi, 'roedd lleisiau'r ddeuawd William John a John William yn ddigon i amharu ar glyw rhywun. Fodd bynnag, bu'r perfformiad yn un ddigon safonol i ennill prif wobr y noson i'r cwmni ac, yn wir i ennill Tlws y cynhyrchydd gorau i Elfed Williams - gwobrau haeddiannol ym marn llawer.

Drama newydd o'r enw "Digon o Waith" gan Geraint Thomas oedd cynhyrchiad Penmachno. Drama hynod hwyliog a difyr gan aelod sydd wedi cefnogi'r ŵyl o'r dechrau. Bu perfformiad caboledig Siân Rhun fel Iola ie, yr un Iola a gyfeiriwyd ati ynghynt yn ddigon iddi ennill y wobr am yr actor/es orau yn yr ŵyl gyfan.

"Caffi Sam" gan Rhys Llwyd oedd teitl drama 'Sbyty a gwelwyd llond llwyfan o actorion ifanc yn mwynhau' perfformiad yn fawr. Atgoffwyd 'Sam' un tro o un llinell benodol go bob un o weddill yr actorion ar y llwyfan ac fe'i mynegodd yn anghywir wedyn. Bu digrifwch ac awydd Lowri Bryn Ddraenen o 'arwain' gweddill y criw yn ddigon iddi ennill y wobr am yr actores fwyaf addawol o dan 18 oed.

Yn wir, ni fedrech fod wedi cael noson fwy difyr o ran ffraethineb gwerinol Cymreig cefn gwlad ar ei orau. DIOLCH i bawb a fu'n ymwneud âr ŵyl mewn unrhyw fodd ac, yn barod edrychaf ymlaen at Chwefror 2005


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý