Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Merched Elusendai 'Sbyty (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) Gwenwch!
Hydref 2009
Mae camerâu digidol yn lot o hwyl ond mae'n hawdd iawn cyrraedd adre o'ch gwyliau efo cannoedd o luniau i'w mewnlwytho i'r cyfrifiadur.
Ac yn waeth fyth gorfodi eich teulu a'ch ffrindiau i edrych arnynt.

Ond wrth i flynyddoedd fynd heibio mae rhywbeth braf, doniol ac hiraethus mewn pori drwy hen ffotograffau.

"Paid a tynnu fy llun i' ydy gwaedd lot pan mae camera yn pwyntio atynt, ond mae'n hawdd i ni anghofio pan ddaeth y camera allan gyntaf roedd yn dechnoleg ffantastig.

Roedd gan bobl ddiddordeb mawr cofnodi eu hunain ac eraill, roedd camera yn ddull cyflym i wneud hyn o'i gymharu a peintio portread.

Dyna pam mae y ffotograffau yma yn werthfawr.

Mae edrych ar wynebau a dwylo y merched yn y lIuniau yma yn rhoi syniad i ni o galedi bywyd yn ystod Oes Fictoria.

Cymro o'r enw John Thomas oedd y ffotograffydd, roedd ganddo stiwdio yn Lerpwl, y Cambrian Gallery ble byddai'n ennill ei fara menyn yn tynnu lIuniau confensiynol o bobl parchus dosbarth canol.

Ond datblygodd ddiddordeb ac hoffter o deithio o gwmpas Cymru yn tynnu lIuniau pentrefi, capeli, marchnadoedd ac yn fwy diddorol, y bobl gyffredin (gan gynnwys y cardotyn a'r meddwyn nad oedd yn gonfensiynol o gwbl yn Ges Fictoria).

Bu yn Ysbyty Ifan yn 1875 gan aros chwech diwrnod yno nes i'r cariwr wythnosol alw heibio.

Disgrifiodd 'Sbyty fel "Lle tawel clyd " ac fe hoffai'r bobl.

Gwelwn yma lun o ferched elusendai 'Sbyty yn eu dillad gorau.

Gwyddai John Thomas ei fod am lun ohonynt fel pobl balch a nid oedd am ei bychanu.

Fel Cymro roedd ganddo barch at y bobl hyn.

Felly gwelwn ferched Capel Garmon yn gwau sanau wrth ymyl yr olwyn nyddu.

Roedd gwau sanau yn bwysig iawn i'r economi, yn ddiwydiant bwthyn go iawn.

Mae y merched yma hefyd yn eu dillad gorau.

Byddai wrth ei fodd yn mynd i ffeiriau a marchnadoedd. Byddai dydd y ffair yn ddiwrnod cyflog i lawer a mae sôn i John Thomas gynhyrchu y nifer mwyaf o ffotograffau mewn un diwrnod, sef 47 yn ffair Pentrefoelas.

Cofiwch mai proses hir oedd prosesu llun yn y cyfnod yma.

Yn ogystal a lluniau Capel Garmon a 'Sbyty, mae yn y casgliad luniau o Betws, Dolwyddelan, Penmachno a Pentrefoelas.

Bellach mae y casgliad wedi ei ddigido gan y Llyfrgell Genedlaethol, a diolch am ganiatâd i gyhoeddi y ddau yma.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý