Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Hen hanesion Cwm Penmachno Hen hanesion Cwm Penmachno
Ebrill 2007
Dyma Tro Tan Rhiw yn yr hen ddyddiau, yma ar y ffordd i'r chwarel yng Nghwm Penmachno.
Roedd rhes o dai a thafarn, a hefyd efail y gof.

Mae'r trigolion oedd yn byw yn Tan Rhiw ers talwm wedi eu claddu ym mynwent yr eglwys, yn dyddio'n ôl i 1879.

Mae'r fynedfa i'r chwarel i'w gweld yn y llun. Nid oedd y top yn ddiogel iawn, galwyd top y fynedfa yn Bwa Mawr.

Roedd y chwarelwyr yn tynnu cerrig dros y Bwa Mawr ond ar ddiwrnod stormus roedd y bwa yn symud ac felly nid oeddent yn medru dod a cherrig i'r felin i'w gwneud yn llechi.

Nes i lawr cyn cyrraedd Tro Tan Rhiw oedd Cwt Bach y Crydd.

Dyma'r lle roedd pawb yn mynd pan oedd angen atgyweirio eu hesgidiau.

Yn is i lawr roedd gan fy nhad (Huw Evans) siop. Roedd yn torri gwallt ac yn gwerthu nwyddau.

Ar un adeg roedd hen dramp yn arfer dod yma yn aml i'r Cwm ac yn aros dros nos yn Nhwll y Cwm, cyn mynd ymlaen ar ei daith.

Un noson torrodd i mewn i siop fy nhad; ni welwyd mohono wedyn!

Robert Davies oedd enw'r crydd oedd yn gweithio yn y cwt bach James Hughes gymerodd y busnes drosodd wedyn, ac agor siop y crydd yn y Ddol. Dilwyn Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý