Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Y diweddar Bab, Ioan Pawl II Cnoi Cil
Mai 2005
Difyr oedd gweld yr ymateb a fu yn ein papurau newydd, ac ar ein teledai yn ystod yr wythnosau diwethaf, ynglÅ·n a marwolaeth arweinydd olaf yr Eglwys Gatholig, sef Ioan Pawl II.
A ninnau yn byw mewn rhan o'r byd lle nad oes ond lleiafrif Catholig, a lle mae niferoedd cynyddol yn dueddol o beidio cysidro eu hunain i fod yn grefyddol o gwbl, roedd yn ddifyr gweld y sylw hawliwyd gan ddigwyddiadau o'r fath, a hynny am gyhyd.

Wedi dweud hynny, dwi wedi clywed aml i un yn cwyno, gan fethu deall beth a wnelo hyn oll hefo ni yng Nghymru heddiw. "Dydan ni ddim yn Gatholigs" meddai un. "Yli ar yr holl ddefod!" meddai'r llall. A digon gwir: gellir dweud nad oedd hyn i gyd ond rhyw nofio mewn galar sydd yn digwydd pob eiliad o'r diwrnod; neu mai dim ond sioe o rym gan hen sefydliad ceidwadol wedi ei addurno ag aur oedd hyn oll mae eraill yn cyfeirio at anghysondeb egwyddorion yr Eglwys Gatholig, ei cheidwadaeth a'i chulni, ei safbwyntiau hen ffasiwn yn erbyn merched ac erthyliad. Ac mae rhywun yn mynd i gytuno hefo sylwadau o'r fath, i raddau.

Ond i raddau yn unig. Oherwydd yr hyn oedd ddiddorol yma oedd y trawsnewid a fu mewn teledu ac yn y wasg, ac yn naws gyffredinol yr hyn oedd yn cael ei ddarlledu ar y sianelau poblogaidd, ac ar yr adegau pan mae nifer y gwylwyr a'r gwrandawyr uchaf.

Anaml y bydda i'n cynnau'r teledu, ond pan wnes i hynny yn ystod y cyfnod hwnnw, cefais fy nharo gan y newid oedd wedi dod i natur y darlledu, i'r hyn oedd yn cymryd amser y newyddion a'r straeon. Beth oedd hyn? Trafodaeth ddwys am egwyddorion ar y teledu?! Pobl yn trafod barnau amrywiol am dda a drwg?

Wedi'r cwbl, a dim ots beth yw barn rhywun am y Pab, nid cyfeirio at ryw stori ddibwys oedd hyn. Nid hanes unigolyn enwog, arferol oedd hyn i gyd. Braf oedd gweld fod y grym nerthol hwn, y wasg ryngwladol sydd mor fodlon ein meddwi, ni ar ddelweddau o bersonoliaethau ysgafn teledu, neu ddynion gor-gyfoethog yn cicio pêl rownd cae ffwtbol, o'r diwedd, ac am unwaith, yn barod i roi sylw i rywbeth a rhywun sydd yn codi'r cwestiwn o dda a drwg yn ein cymdeithasau.

Dyna oedd pobl am ei weld, wedi'r cwbwl - gan brofi yn y pen draw mai'r werin sy'n rheoli'r wasg, ac nid fel arall.

Beth bynnag ein moesoldeb unigol, beth bynnag rydan ni'n ei feddwl am gapel neu grefydd, roedd diod feddwol tragwyddol y teledu yn peri inni i gyd oedi am eiliad fer, ac efallai gysidro rhai o'r pethau hynny, flynyddoedd yn ôl ac mewn Cymru bur wahanol, oedd yn rhan o'n bywydau, mewn un ffordd neu'r llall, diolch i bulpud capel, ac i fath o gymuned nad yw bellach ond yn bodoli yn y cof. Pryd ydan ni yn troi i siarad am y pethau yma heddiw?

Efallai y dylem fod yn ofalus i beidio orbwysleisio safonau moesol ein harweiniaid, boed nhw'n arweiniaid gwleidyddol neu grefyddol, ond rhyddhad oedd gweld fod hyd yn oed y teledu, sef cyfrwng sy'n ymddangos i fynd allan o'i ffordd i osgoi unrhyw drafodaeth ddifrifol am werthoedd cymdeithas, wedi bod yn ffynhonnell inni fod yn dystion i ychydig ddyddiau o drafodaeth ddwysach. Am unwaith, os nad ond am chydig ddyddiau, rhoddodd y teledu i ni rhywbeth i feddwl amdano.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý