Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Ffermio Cornel Amaeth
Chwefror 2003
O'r diwedd daeth newid i'r rheol ugain diwrnod ynglyn â'r symud anifeiliaid a'i ostwng i chwech diwrnod. Bu hon yn frwydr galed yng ngwyneb gwrthwynebiad chwyrn gan y llywodraeth.

Er bod pob mudiad amaethyddol yn dymuno peidio cael unrhyw gyfyngiadau ar y diwydiant ni wnai y Llywodraeth drafod hynny, felly roedd y diwydiant yn wynebu ugain neu chwe diwrnod o gyfyngiadau. Roedd y mudiadau canlynol, Cymdeithas yr Arwerthwyr, Undebau Amaethyddol, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Cymdeithas y Ffermwyr Bychain, Cymdeithas Defaid (NSA) a Chymdeithas Cynhyrchwyr y Gwartheg (NBA) o'r farn fod chwe diwrnod yn llawer gwell nag ugain diwrnod.

Roedd unoliaith yn eu gwrthwynebiad i'r ugain diwrnod a chael rhyddhau y rhwystrau sydd ar y diwydiant, ond mae brwydr eto o'n blaen i ofalu na chaiff y Llywodraeth roi rheolau gwirion a diangen ar ein marchnadoedd da byw. Brwydr arall i'r holl fudiadau uchod sefyll gyda'i gilydd i ofalu y gall ein Marchnadoedd lwyddo heb reolau diangen.

Un o'r newidiadau mwyaf ers blynyddoedd sydd yn wynebu'r diwydiant yw cynigion o Ewrop i newid y modd mae amaethwyr yn cael eu talu. Mae'r cynigion yn symud y taliadau oddi wrth yr anifeiliaid i daliadau ar y tir, mae hyn yn newid sylfaenol i beth mae'r diwydiant wedi arfer ac fe fydd llawer o drafod a phendroni cyn y cawn weld y cynllun llawn. Bu i NFU Cymru drefnu cyfarfodydd i drin a thrafod y cynllun yma a da oedd gweld Cymro Cymraeg sef Damien Phillips, Cyfarwyddwr Swyddfa NFU Cymru ym Mrwsel yn amlinellu y cynigion ac fe ddylem fel ffermwyr yng Nghymru fod yn falch fod gennym Swyddfa a chynrychiolaeth gref fel hyn yn Ewrop ac fe fydd ei wybodaeth a'i gynrychiolaeth o fudd i holl ffermwyr Cymru yn y trafodaethau sydd i fod.

Mae'n edrych yn debyg fod yna ail feddwl ynglyn â rhoi tagiau unigol mewn defaid, roedd y cynllun yn un gwallgo i ddweud y lleiaf, yn enwedig pan fod wyn yn cael eu lladd mae'r pen yn cael ei dorri i ffwrdd ac felly nid yw y lladd-dai yn gwybod o lle mae'r wyn yn dod na wyn pwy oeddynt.

Fe fu i Gymdeithas Porwyr y Mignaint gael y maen i'r wal gyda'r Cyngor Cefn Gwlad ynglyn â'r Mignaint, buddugoliaeth am eu dyfal barhad a dygnwch.

Elfed Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý