Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Ysgol Sul Padog ar y ffordd i fyny'r Wyddfa O Badog i Sycharth
Gorffennaf 2004
Ar y Sul cyntaf o Orffennaf cychwynnodd dros ddeugain o bererinion o Badog i chwilio am Sycharth, cartref Owain Glyndŵr yn ardal Llansilin.
A chwilio ydi'r gwir hefyd gan nad oes dim arwydd na mynegbost i'n cyfeirio i'r fang re. Tase 'na gastell wedi ei godi gan y Saeson yn Sycharth, mi fasa'r lle'n frith o arwyddion.

Fel y dywedodd yr Athro Dafydd Glyn Jones, mi ryda'n ni'n rhai da am guddio ein hanes ni ein hunain.

Ond roeddem ni mewn dwylo diogel Meic, gyrrwr gofalus 'Teithiau'r Foelas' a dod a hyd i Sycharth fu hi er gwaetha difrawder yr awdurdodau at y lle cysegredig hwn yn ein hanes. Yno yn ein haros roedd un o gadfridogion Glyndŵr heddiw, sef yr Athro Dafydd Glyn Jones a'i briod annwyl Gwawr Angharad. Braint ac anrhydedd fu troedio Sycharth yn eu cwmni diwylliedig a gwrando ar yr Athro yn trafod cerdd enwog Iolo Goch sy'n disgrifio'n fanwl ysblander y lle yn ei anterth.

Wrth weld y ddwy faner yn chwifio eto yn Sycharth, mi fasa'r hen Owain wedi'i blesio. Does dim o olion o'r gogoniant a fu yno heddiw - fe losgwyd y lle'n ulw gan frenin Lloegr. Ac eto, mae yno rywbeth sy'n cynhyrfu'r isymwybod, fel tasa Owain o gwmpas o hyd.

Yng nghwmni Dafydd Glyn a Gwawr, fedrwch chi ddim peidio a blasu dyheadau dyfnaf Owain Glyndŵr a diolch o galon iddyn nhw am eu parodrwydd i ddod yno a'n swyno'n lân.Gan nad oedd yno le i barcio bws (diffyg arall gan yr awdurdodau) bu'n rhaid gadael ar ffrwst.

Aros am ysbaid yn Froncysyllte a byrddio cwch ar y gamlas tros y bont enwog ac ymlaen i Langollen. Taith hyfryd, er na ddaethom ar draws yr anturiaethwr enwog Indiana Jones oedd rywle yn y cyffiniau. Hon oedd y bymthegfed bererindod ar hugain a da oedd cael cymaint o blant yn y cwmni eleni. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesa yn barod.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý