Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Y Ffermwyr Ifanc yn dathlu llwyddiant Clwb Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan
Mehefin 2005
Dydd Sadwrn 28ain o Fai cynhaliwyd rali flynyddol y Ffermwyr Ifanc ar ffarm Garthmyn, Llanrwst, er y tywydd cafwyd diwrnod llwyddiannus gyda digon o hwyl.
Y canlyniadau terfynol oedd:
laf Clwb Dyffryn Nantlle 350
2ail Ysbyty Ifan 332
3ydd Llanrwst 260
4ydd Porthdinllaen 176
5ed Rowen 66

Thema y flwyddyn hon oedd y Gorllewin Gwyllt. Bu cystadlu brwd dwy'r dydd ac ambell i un yn debyg iawn fel y tasant wedi dod o'r gorllewin gwyllt. Cafwyd amrywiaeth o gystadlaethau fel dawnsio gwerin, codi wigwam, ymladd clustogau dros ddŵr, cneifio, tynnu rhaff a rodeo.

Cafodd y clwb gryn lwyddiant gydag ambell i darian yn dod adref sef Tlws Goffa Huw Rowlands (Seren Wib), Tancard Bob Parry (Cneifiwr Gorau), Hefin Jones, Cwpan Barhaol R E Lister (Cneifio), Tarian Goffa Thomas Selwyn Roberts (Gwaith Coed), Ger Gwpan y Garth (tynnu rhaff merched), Cwpan Goffa y diweddar George Edwards (tynnu rhaff bechgyn), Cwpan Barhaol yr Helfa (ail orau yn yr adran hyn), Tarian Brwdfrydedd UCA (Clwb buddugol yn ôl cyfartaledd aelodaeth).

Hoffwn ar ran y clwb ddiolch o galon am bob cymorth a gawsom tuag at y rali, gan rieni a ffrindiau y clwb mae'r aelodau yn gwerthfawrogi eich cymorth a'ch cefnogaeth bob amser.

Mae'r enwau yn ormod i enwi pawb ond DIOLCH i chwi oll. Ond fe garwn ddiolch i C T Roberts, y Fron, Ysbyty Ifan am fod mor hael a noddi ein crysau newydd, roedd pawb yn edrych yn hynod o smart ar y dydd.

Gyda'r nos cafwyd dawns yn ffarm Garthmyn gyda Frizbee yn perfformio. Bu cryn ddathlu gyda'r nos a pawb yn mwynhau - o'r ifanc i'r rhai hÅ·n ohonom.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý