Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Y llun ar rifyn cynta'r Odyn, Hydref 1975 Penblwydd Hapus!
Hydref 2005
Yr Odyn yn 30 oed!
Tybed faint o bobl fydd yn rhyfeddu wrth weld y pennawd uchod ac yn datgan mewn syndod, 'Bobl annwyl - oes 'na ddeng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers dechrau'r Odyn'.
Coeliwch neu beidio, oes mae 'na! Sefydlwyd Yr Odyn a llu o bapurau bro eraill yn sgil bwrlwm cenedlaethol y saithdegau. Roedd yn fodd o droi egni'r protestio a'r ymgyrchu yn weithgaredd diwylliannol a chymdeithasol a fyddai'n crythau Cymreictod y fro. Gobeithio bod Yr Odyn wedi llwyddo, i ryw raddau neu'i gilydd beth bynnag, yn hynny o beth.

Nodwedd arall oedd mai criw o bobl ifainc oedd y tu cefn i'r fenter yn Nant Conwy fel mewn cymaint o ardaloedd eraill. Criw yn eu hugeiniau a'r tridegau cynnar oedd y rhan fwyaf ac yn gapten ar y criw, wrth gwrs, roedd Arthur Thomas.

Roedd paratoi'r Odyn dros y blynyddoedd cynnar yn dasg llawer mwy llafurus, gyda'r deunydd i gyd yn cael ei deipio ar deipiaduron digon anwadal gan nad oedd sôn am gyfrifiaduron a phrosesu geiriau! Byddai'r teipyddion a'r gosodwyr yn treulio tair noson, ac weithiau pedair, yn cael trefn ar bob dim. Ysgol Dolwyddelan oedd y man cyfarfod ar y dechrau, cyn symud i Dan Lan ac yna'r ysgol ym Metws-y-coed.

Dim ond wyth tudalen oedd i' r rhifyn cyntaf ond roedd pwt o hanes pob pentref i'w gae1.

Heidiwch i brynu'r Odyn - yn hwnnw
Cewch hanes y dyffryn
Yn wastad bydd pob testun
Yn eich iaith annwyl eich hun.

oedd anogaeth englyn yn y rhifyn hwnnw.

Ar y dudalen flaen roedd llun criw o Ysbyty Ifan a fu'n fuddugol yng Ngŵyl Giamocs Cerrig-y-drudion ac un ohonynt, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach yn dathlu dod yn dad am y nawfed tro!

Bu Eisteddfod ym Melin-y-coed a dwy ferch fach yn ennill gwobrau dan 7 oed, Catherine Davies ar yr unawd ac Edna Roberts am adrodd.

Roedd cyfarfod agoriadol yr Urdd wedi ei gynnal yng Nghapel Garmon a Gordon Jones wedi ei ddewis yn Arweinydd, Enid Thomas yn Ysgrifennydd a Clydwen Davies yn Drysorydd.

Dan Capel Curig dymunwyd yn dda i Margaret a Tomos, Garth ar gychwyn eu gyrfa yng Ngholeg Glynllifon a llongyfarchwyd tîm dartiau'r Bryntyrch ar guro'r Red Lion, Ty'n-y-groes a'r Ship yn Nhrefriw. Bu'r Prifardd Emrys Roberts yn meurynna mewn Ymryson y Beirdd ym Mhentrefoelas a chofnodwyd englyn R.E. Jones i un arall o fawrion llên y fro:

Huw Sêl, fel 'rych yn sylwi - sydd o hyd
Yn ŵr hardd a heini.
A rhoes yn awr, siars i ni
Na redwch i briodi.

Gwelwyd llun o 17 o ferched plwyf Penmachno a oedd wedi codi £135 tuag at y Cylch Meithrin wedi cerdded i Cwm ac yn ôl. Roedd cyhoeddiad bod Dr Jeffries, y meddyg newydd, yn cychwyn cynnal meddygfa yn Nhan-y-dderwen a chroesawyd Iwan, mab Ann a Ken adref o'r ysbyty. Diolch byth - mae'n dal i weithio'n galed dros yr Odyn!

Roedd Colofn Bop Dafydd Gwyndaf yn ffarwelio â dau grŵp o'r ardal oedd yn rhoi'r gorau iddi, y Mellt a Mimosa a chafwyd llun o bedwar o sêr pop y cyfnod Glyn Jenks, Phil Jones, Ithel ac Elfed!

Dymunodd pobl Betws yn dda i Elizabeth Grodzicka a John Thomas ar eu priodas ac i Dafydd, Ty'r Banc, Vida Little a Susanne Williams ar ddechrau eu gyrfa golegol tra'r oedd Dolwyddelan yn ymhyfrydu yn llwyddiant Eurwyn Roberts ar werthu ei blu pysgota cyn belled ag Awstralia ac America - a'i longyfarch ar ennill Cwpan Siabod am y marciau uchaf am gynnyrch gardd yn Sioe'r pentref - fel y gwnaeth yn 1971, 1973 a 1974 hefyd!

Ar y dudalen gefn roedd llun o dîm balch Machno wedi iddynt guro Trawsfynydd 3 i 1 ac adroddiad o gêm yr ail dîm hefyd yn nodi fod bechgyn ifanc fel Merfyn Morris a Thomas Owen yn cael cyfle i wneud eu marc. Gweld yn chwith roedd Dolwyddelan gan fod Selwyn Hughes "a fu'n asgwrn cefn y clwb am lawer tymor" bellach yn chwarae i dîm cyntaf Blaenau Ffestiniog.

Ydi, mae'r Odyn wedi cofnodi hynt a helynt sawl cenhedlaeth erbyn hyn a gobeithio y bydd digon o weithgaredd Cymraeg a Chymreig hwyliog, amrywiol a diddorol i'w adrodd am 30 mlynedd arall. Ond cofiwch mai mynd yn hÅ·n mae llawer o'r criw a byddai'n braf cael rhagor o waed newydd i ysgwyddo peth o'r gwaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý