Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Myfyr Thomas Teyrnged i Myfyr
Rhagfyr 2006
Ar ran Clwb Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan, a gawni gydymdeimlo a theulu Bryn ar golled Myfyr yn ddiweddar.

Myf
Gwelodd Duw le gwag yn ei ardd
ac edrychodd lawr ar dy wyneb hardd
Pwy gwell i lenwi bwlch gwerthfawr na chdi?
Ein ffrind ni oll, fe'th gollaf di.
Trystan Tai Duon.

Roedd Myfs yn aelod gweithgar, ac yn ffrind gwerthfawr iawn i bawb yn y clwb. Byddwn yn ei golli yn fawr.

Roedd Myfs bob amser yn barod i gystadlu neu helpu allan ar unrhyw weithgaredd oedd yn cael ei gynnal yn y clwb. Ers 6 mlynedd mae Myfs wedi cystadlu mewn ambell i Rali, Eisteddfod a Barnu Stoc ar ran y Clwb ac wedi rhoi cant y cant i mewn bob amser.

Mae llawer o atgofion melys iawn y gwnaiff pawb gofio am Myfs, un ohonynt sydd yng nghof pawb yw Rali 2006, ble roedd cystadleuaeth addurno berfa. Roedd pawb wedi amau bod gan Marc a Myfs rhywbeth wedi ei drefnu ond ddim am ddweud wrth neb, yna ar ôl bod wrthi am ddiwrnodau yn paratoi, darganfod eu bod wedi gwneud sgwter allan o ferfa, roedd hi yn arbennig, a phopeth wedi ei wneud yn berffaith iddi.

Hogyn distaw oedd Myfs, ond os oedd ganddo rhywbeth ar ei feddwl roedd yn rhaid iddo ei wneud, ac ei wneud yn iawn hefyd.

Atgof arall sydd yn cadw ym meddyliau yw Eisteddfod 1999. Daeth Meinir, Menna, Sioned, Eilir, Myfs, Carwyn, Marc a Trystan at ei gilydd i wneud yr 'Hakka' i'r gystadleuaeth meimio i gerddoriaeth.

Cawsant lwyddiant drwy'r Sir ac yna ymlaen i Drenewydd dros Gymru.

Rhoddodd pob aelod o'r criw cant y cant iddi ac roedden nhw werth eu gweld.

Roedd tynnu rhaff yn gystadleuaeth gryf iawn gan Myfs hefyd, ac yn falch iawn ohono i hun a'r tîm pan oeddent yn ennill yn y sir, fel a ddigwyddodd ambell i flwyddyn.

Ni wnawn byth anghofio am Myfs.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý