Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Chwarae'r delyn Gŵyl Gerdd Dant 2004
Tachwedd 2004
Wedi dwy flynedd o waith paratoi, daw'r cyfan i benllanw ar Dachwedd 20fed.
Bydd Theatr Gogledd Cymru, Llandudno yn atsain i sain y delyn a diwylliant unigryw Cymru. Yn 1982 pan ymwelodd Gŵyl Cerdd Dant Cymru â'r ardal ddiwethaf, cafwyd gŵyl arbennig o lwyddiannus gyda Theatr yr Arcadia, Llandudno yn orlawn, a chystadlu arbennig o dda trwy'r dydd. Mae llawer yn parhau i sôn am Iwyddiant gŵyl '82, a chaiff ei chyfrif ymysg y goreuon o wyliau cerdd dant y gorffennol.

Unwaith yn rhagor mae pob arwydd y cawn ailadrodd llwyddiant 1982, ac y cawn ŵyl i'w chofio ar Dachwedd 20fed. Mae oddeutu 1800 o gystadleuwyr yn brysur yn hogi arfau, ac i dynnu dŵr o'r dannedd megis, mae pedwar Côr Cerdd Dant, 11 Parti Cerdd Dant, 14 Côr Gwerin ac, ar ddawnsio gwerin, 11 parti ac 8 grŵp stepio - y cyfan yn rhoi inni ragolygon gwych, yn wledd i'r glust a'r llygad.

Heb os bydd bwrlwm yn y theatr, gyda digon o le i bawb yn y theatr osgeiddig. Bydd darpariaeth dda ar Radio Cymru ac S4C trwy'r dydd, ond nid oes dim fel bod yn bresennol.

Dewch i fod yn rhan o'r awyrgylch ac i gefnogi y cystadleuwyr o bedwar ban Cymru. Cofiwch, Tachwedd 20fed - 12.00 a 5.30 o'r gloch.

Yn ddiweddar tynnwyd raffl yr ŵyl, a dyma restr o'r enillwyr:

Penwythnos i ddau ym Mharis trwy gefnogaeth Grosvenor Travel, Deganwy - Berwyn Williams, Llanfairfechan.
Gwyliau dwy noson yn y Princess Arms, Trefriw - Delyth Davies, Abergele.
Cinio canol dydd i bedwar yng Ngwesty St Tudno, Llandudno - Peter Evans, Rhydaman.
Pryd i ddau yng ngwesty'r Groes, Ty'n-y-groes - W E Evans, Gwytherin
Pryd i ddau yn yr Hen Reithordy, Glan Conwy - Eurwen Roberts, Nant-y-rhiw.
Pryd i ddau yn yr Osborne House, Llandudno - Megan Davies, Pontypridd.
Rownd o golff i bedwar yng Nghlwb Betws-y-coed - Haf Morris, Llandegfan.

Cafwyd elw sylweddol trwy'r ymdrech yma, ac y mae ein diolch yn fawr i'r cwmnïau a'r sefydliadau a roddodd y gwobrau yn rhad ac am ddim tuag at y raffl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý