Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Meinir a Gwion Gwilym Llanast Llanrwst yn Llwyddo
Rhagfyr 2003
Bu y llanast o weithgareddau diwylliannol cyffrous, arloesol ac amrywiol oedd yn cael eu cynnal yn Llanrwst o ddydd Mercher, 19 Tachwedd tan ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd, yn hynod llwyddiannus.
Cafodd y digwyddiadau eu trefnu gan Fenter laith Conwy. Ymhlith y llanast roedd Meic Stevens, Bethan Gwanas, Ifor ap Glyn, Steffan Crafos, Iwcs, Maharishi, Gwenno, TNT, Theatr Bara Caws, Orig Williams, Meinir Gwilym, Bysedd Melys, Alun Tan Lan, MCSaizmundo a hogiau Anweledig ac enwogion eraill.

Amcangyfrifwyd fod hyd at 1800 o bobl wedi mynychu'r holl wyl.Dechreuodd yr wyl yn addawol gyda llond tafarn yr Albion yn gwylio Gwenno nos Fercher, ar ôl y gêm rhwng Cymru a Rwsia - mi ddaru hynny lwyddo i godi calonnau rhai o'r hogiau Cymraeg yno!!

Llawn hefyd oedd y Llew Coch wrth i hanes gael ei greu nos Iau, wrth i dalwrn cyntaf o Feirdd yn erbyn Rapwyr gael ei gynnal. Y Rapwyr enillodd yr ornest o drwch blewyn, gyda'r Beirdd yn awchu am gyfle i gystadlu yn eu herbyn eto.

TNT a Gwenno fu'n diddanu disgyblion Ysgol Bro Gwydir ac Ysgol Dyffryn Conwy yn ystod y dydd, tra llwyddodd Theatr Bara Caws i ddenu 150 i'w perfformiad Dulce Domum yn gynnar nos Wener, gyda rhai fel Valmai Jones a Maldwyn John yn actio i'r cwmni.Llwyddodd Alun Tan Lan a Meic Stevens i ddenu ffigwr tebyg i Westy'r Eryrod gyda'u doniau cerddorol unigryw. Tra fod Meic wedi diddanu gyda'i hen ffefrynnau cafodd pawb eu synnu gan ddawn newydd a chyffrous Alun Tan Lan.

Cafodd 15 o sêr y dyfodol hyfforddiant gan enwogion sîn pop Cymraeg yng Nghanolfan Gymunedol Llanrwst fore Sadwrn, tra mentrodd 150 arall draw i Ganolfan Hamdden Llanrwst yn y pnawn i weld y Wreslo Americanaidd o dan arweiniad yr enwog Orig Williams.Roedd y Llew Coch dan ei sang unwaith yn rhagor wrth i Gystadleuaeth Bôn Braich yr wyl ddechrau. O dan ofal Orig Williams enillodd tîm Llanrwst, sef Gwyn Llindir, Aled Pant Manus ac Elgan Fedw.

Wrth i gerddorion ddechrau eu sesiynau o gwmpas y tafarndai heidiodd cannoedd i lenwi pob un tafarn i'w hymylon, i'r ffasiwn raddau fel ei bod hi'n anodd i'r cerddorion chwarae ym mhob tafarn. Serch hynny cafwyd nifer o sesiynau hynod lwyddiannus ym mhob rhan o'r dre.

Dywedodd Deiniol Thomas, Swyddog Maes y Fenter, Mae Menter Iaith Conwy yn gobeithio bod yr wyl wedi codi proffil y Gymraeg yn y dre yn ogystal â chynnig budd economaidd i fusnesau Llanrwst.

Mae'r Fenter yn bwriadu cynnal Llanast Llanrwst eto'r flwyddyn nesaf. Os oes gennych syniadau ynglyn â'r Wyl ffoniwch Menter Iaith Conwy 01492 642357 neu e-bostiwch menteriaithconwy@cymrui.net


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý