Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Kerala, India Taith y ddwy Siân
Ebrill 2010
Mae gweithwraig gymdeithasol a therapydd galwedigaethol wedi treulio amser yn gweithio yn India.

Fel gweithwraig Gymdeithasol yn ardal Caernarfon mae Siân Rhun o Benmachno yn cydweithio yn rheolaidd gyda Dr Bobby Kurian-Seiciatrydd sy'n hanu o Kerala, talaith yn Ne India.

Mae Siân Eleri hefyd yn gweithio fel Therapydd Galwedigaethol yn ardal Caemarfon a Meirionnydd ar ôl sgwrs gyda Siân Rhun.

Mae Bobby yn byw ac yn gweithio yma yng Ngogledd Cymru ers nifer o flynyddoedd ond yn mynd adref yn rheolaidd at ei wraig a'i deulu, ac hefyd i oruchwylio nifer o'r prosiectau cymunedol y mae ef a'i ffrindiau wedi eu sefydlu.

Roedd y diddordeb i fynd yn gryf iawn ar ôl nifer o drafodaethau gyda Bobby.

Oherwydd lliwiau a diwylliant cyfoethog India, cynhesrwydd a chyfeillgarwch sawl cydweithiwr o'r India a'r cyfle i weithio a chyfrannu at brosiectau Bobby, roedd yr atyniad at India wedi bod yn araf ferwi yng nghefn ein meddyliau.

Fel roedd y Gaeaf yn , araf gropian a'r meddwl yn crwydro I gael dianc I'r haul, sgwrsiodd Siân yn sydyn hefo Bobby a a phenderfynu ar daith i India.

Rhyw fis cyn mynd daeth Siân arall 'on Board'ar ôl sgwrs yn y gampfa!

Roeddwn i, Siân Eleri o Ddolwyddelan yn awyddus iawn i ymuno ar y trip erbyn hynny.

Roedd cael y ddwy ohonom yn gwmni i'n gilydd yn mynd i fod yn grêt.

Gan fy mod innau hefyd yn gweithio yn yr un maes yn ardal Meirionnydd ac Arfon, roedd y ddwy ohonom yn rhannu'r un diddordeb ae eisiau cael yr un math o brofiadau.

Ar ddydd Sul braf o lonawr dyma gychwyn am Fanceinion a rhyw 12 awr yn ddiweddarach glanio yn Kochin.

Er mor gyffrous oeddem, roedd teimlad o bryder yng nghefn ein meddyliau.

Er i'r ddwy ohonom deithio tipyn yn y gorffennol roeddem yn ymwybodol o'r anawsterau oedd yn debygol o'n wynebu a wnaeth y daith gyntaf yno o'r maes awyr ddim helpu!

Nid oedd llawer o siarad ar y daith pedair awr i Kottayam.

Yn gyntaf roedd y ddwy ohonom yn flinedig iawn, yn ail roedd cael ei'n cyflwyno i'r byd newydd yma drwy ddiogelweh y tacsi yn wledd i'r synhwyr~u ac yn mynnu ein holl sylw.

Ond yn drydydd ni allem ddweud bod y tacsi yn teimlo'n ddiogel iawn ac roedd y profiad cyntaf o ffyrdd a gyrru yn India yn frawychus a'r ddwy ohonom yn meddwl a oeddem am gyrraedd o gwbl.

Dysgom yn sydyn iawn nad oes defnydd o 'indicator' yn bodoli ac roedd synau yr holl gyrn ar y daith gyntaf yno yn fyddarol, yn brifo'r glust ac yn ddigon i ddychryn dwy oedd wedi blino yn lân ac yn ceisio addasu eu hunain i hinsawdd ac awyrgylch newydd.

Wedi noson iawn o gwsg nid oeddem yn hir yn setlo mewn i Kottayam ac yn dotio pob dydd at y tirwedd gwyrdd trofannol yn ogystal a'r afonydd oedd yn neidro o'n cwmpas.

Ni chawsom ein siomi hefo'r lIiwiau lIachar a'r bwrlwm oedd ym mhob man.

Yn union fel y disgwyl roedd saris y merched yn anhygoel a phob merch a phlentyn yn gwenu yn gynnes a swil wrth basio.

Hedfanodd y tair wythnos nesaf heibio a IIwyddom lenwi pob diwmod yn gweithio a phob nos yn cael ein croesawu i gartrefi a ffordd o fyw teulu a ffrindiau Bobby.

Daeth yn ddigon clir i ni o'r cychwyn fod pawb wedi bod yn trefnu ein tair wythnos hefo digwyddiadau oedd am sicrhau amryw o brofiadau bythgofiadwy.

Roedd teulu a ffrindiau Bobby am y gorau i sicrhau fod ein hymweliad yn cael ei lenwi hefo pob math o brofiadau a daethom i ddeall yn sydyn yr ystyr tu ôl i'w dywediad poblogaidd 'y gwestai yw Duw'.

Nid oeddem erioed o'r blaen wedi dod ar draws pobl mor groesawgar a gofalus yn y ffordd roeddynt yn ein gwarchod a'n difetha.

Roedd y driniaeth a gawsom yn aml yn lIethol ac roeddwn yn teimlo nad oedd y gwaith roeddwn wedi ei wneud yno yn talu yn ôl am y croeso a gawsom.

Treuliwyd pob dydd yn gweithio yn un o brif brosiectau Bobby sef canolfan Ashabavan, canolfan i ferched dros 18 oed gydag anableddau dysgu.

Roedd Bobby wedi esbonio maj'r grwp yma oedd y mwyaf bregus a gwan yn eu eymdeithas, yn gyntaf oherwydd safle israddol y ferch ac yn ail oherwydd y stigma sydd o amgylch anabledd dysgu, gyda lIawer o deuluoedd vn cuddio bodolaeth plentyn ag anabledd hyd yn oed rhag y teulu ei hun.

Tra roeddem yno treuliodd y ddwy ohonom ein hamser yn gwneud amryw o weithgareddau hefo'r merched.

Roedd eu diwrnod yn dilyn patrwm o ddysgu sgiliau sylfaenol byw, gweddïo a chanu, chwaraeon ac yn y prynhawn gwaith crefft.

Roeddem yn awyddus i sefydlu prosiect bychan yn yr amser byr yr oeddem yno felly aethom ati bob prynhawn i ddysgu'r merched i wneud cardiau, rydym nawr yn gallu gwerthu'r cardiau yma er mwyn codi arian i'r ganolfan.

Cawsom hefyd y cyfle i fod yn rhan o brosiect oedd yn magu hyder a chysylltiadau i blant ifanc oedd yn dangos gallu arbennig academaidd ond yn dod o gefndiroedd anobeithiol o dlawd.

Yn bersonol i'r ddwy ohonom roedd cael treulio amser hefo'r plant yma a'u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain yn uchafbwynt bythgofiadwy i ni.

Roedd y plant yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn yn ddyddiol ond drwy gymorth y prosiect roeddynt yn hynod o hapus ac yn edrych ar ochr orau bywyd yn ogystal a sylweddoli pwysigrwydd helpu ei gilydd ac eraill.

Ers dod adref mae'r ddwy ohonom wedi bod mewn cysylltiad hefo arweinydd y prosiect a gyda rhai o'r plant ac yn mynd i'w cefnogi yn rheolaidd.

Roedd nifer o'r plant a fyddai'n elwa o gael cyswllt rheolaidd gydag eraill ac ein bwriad yw cael hyd i bobl fyddai a diddordeb cefnogi'r plant hefo cyngor, llyfrau, a llythyrau.

Roedd yn golygu cymaint i'r plant a'u teuluoedd gael cyfarfod rhywun y tu allan i'w cymunedau, a bydd cysylltiad rheolaidd yn amhrisiadwy iddynt.

Roedd gadael ar ôl tair wythnos yn anodd iawn ond roeddem yn teimlo ein bod wedi cyflawni llawer o ystyried yr amser ac yn bendant ein bod am ddod yn ôl i'r ardal arbennig yma i weld y ffrindiau a'r llefydd oedd wedi gadael marc ar ein calonnau.

Wedi teithio i nifer o wledydd roedd cael y cyfle i weithio yn un llawer mwy buddiol.

Er i Siân Eleri fod yn Affrica 'nol yn 2008 i helpu pentref Amdallai roedd gweithio yn agosach at yr unigolion yn fraint mawr.

Byddent yn argymell i unrhyw un sydd awydd profiad gwahanol mewn gwlad sy'n hawdd teithio ynddi oherwydd cymorth ei phobl i fynd i Kerala yn yr India.

Ar ein noson olaf sylweddolom fod hyd yn oed cyrn y ceir wedi dod yn sŵn annwyl ac roedd cerdded y strydoedd poeth, prysur, lliwgar oedd yn llawn arogl sbeisiau yn rhywbeth wnaiff aros yn y cof am byth.

Er dod adref mae'r ddwy ohonom yn ceisio codi arian i'r ddau brosiect ac yn gwerthu'r cardiau mae'r merched mwedi eu gwneud. Er i Siân Eleri fod yn Affrica 'nol yn 2008 i helpu pentref Amdallai roedd gweithio yn agosach at yr unigolion yn fraint mawr.

Byddent yn argymell i unrhyw un sydd awydd profiad gwahanol mewn gwlad sy'n hawdd teithio ynddi oherwydd cymorth ei phobl i fynd i Kerala yn yr India.

Ar ein noson olaf sylweddolom fod hyd yn oed cyrn y ceir wedi dod yn sŵn annwyl ac roedd cerdded y strydoedd poeth, prysur, lliwgar oedd yn llawn arogl sbeisiau yn rhywbeth wnaiff aros yn y cof am byth.

Siân Eleri a Siân Rhun


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý