Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Aderyn Byd Natur
Ionawr 2003
Sut mae adar bach yn ymdopi yn nhywydd oer y gaeaf?
Dyma'r flwyddyn newydd wedi cyrraedd, a choeliwch neu beidio, mae'r dydd yn dechrau ymestyn y mymryn lleiaf pob dydd a'r haul yn dringo ychydig bach yn uwch yn yr awyr. Meddai'r hen bobl "dylai'r tywydd fod yn oer a chaled yn ôl ei dymor yn Ionawr". Galwant yr eira yn "faeth Ionawr" gan ei fod yn cadw'r ddaear yn gynnes!

Cawn sôn am hâf ar ôl cau'r drws
Mis Ianawr yw mis Ionor!

Mis Ianws, mis y ddau wyneb; un i edrych yn ôl ar y flwyddyn aeth heibio a'r llall i edrych ymlaen i'r flwyddyn newydd. Mae hi'n bur galed ar hyn o bryd, yn rhewi ac yn barrugo'n filain iawn, a'r hen afon yma heddiw wedi rhewi bron drosti.

Wn i ddim pam, ond mae'r adar bach yma'n bwyta cnau a bara am eu gorau. Hwyrach eu bod yn gallu darogan y bydd hi'n aeaf caled arnynt! Mae adar ac anifeiliaid hefyd, rwyf yn hollol sicr, yn gallu rhagweld tywydd garw'n llawer gwell na ni fodau dynnol.

Y wylan wen adnebydd
Pan fo cyfnewid tywydd,
Hi hêd yn deg ar adain wen
O'r môr i ben y mynydd

Mae'r Titw Mawr a'r Tomos Las ac ambell i Ditw Penddu (Coal Tit) am y gorau, a rhai eraill a ddaw i'r bwrdd yw Llwyd y Gwrych, Ji Binc gwyrdd a Thelor y Cnau heb anghofio'r hen ffefrynnau Robin Goch a'r Fwyalchen; ac yn yr ardd gefn pedair Iâr Ffesant a dau Geiliog.

Un Iâr Ffesant oedd yna cyn y Nadolig, felly mae'n rhaid bod honno wedi cario'r neges i'r lleill, a buasai'n ddiddorol darganfod sut mae adar ac anifeiliaid yn cyfathrebu â'i gilydd. Mae ganddynt i gyd leisiau felly mae'n rhaid bod ganddynt eu hiaith neu rhyw ffordd o gysylltu. Nid yw y fronfraith na'r fwyalchen ddu pigfelyn yn canu iddo'i hun ond i ddenu ei gymar, r'un fath â Romeo a Juliet ers talwm!

Câr y Fronfraith roddi cerdd Mewn coedwig werdd o dderi! A pha le maent yn clwydo'r nos ar y rhewynt oer a'r barrug? Maent yn colli eu gwres yn sydyn iawn ar noswaith oer; dyna pam eu bod yn gorfod bwyta a bwyta drwy'r dydd i gadw gwres eu cyrff i fyny. Mae adar mân fel y Titws yn clwydo yn un twr â'i gilydd mewn cilfachau tan y bondo neu mewn blwch nythu gwag; hwyrach yn yr un y cawsant eu magu ynddo yn y gwanwyn. Mae'r fwyalchen yn y gaeaf fel hyn yn ymguddio mewn rhyw wrych trwchus o ffawydd sydd heb golli eu dail neu'r Lawsonia bythol wyrdd.

Mae'r Ddrudwy yn clwydo yn eu miloedd ar adeiladau rhai o'n trefi mawr fel Lerpwl a Manceinion ac yn gwneud llanast garw â'u carthion. Miloedd eraill yn ein coedwigoedd pîn, a chofiaf un gaeaf rhyw bump i wyth mlynedd yn ôl, fynd am dro bob nos ar y cyfnos i weld rhai miloedd o Ddrudwy yn dod yn ddeddfol i goed Hafod Las i glwydo. Ond mae rhyw si ar droed yn darogan fod y Ddrudwen yn prinhau, ond mae straeon fel hyn ar droed pob hyn a hyn gan y gwybodusion a'u stategau cyfrifiadurol.

Beth am y ffesantod ar cyffylog sydd yn clwydo ar lawr yn y brwyn hwyrach? Er pan ddaw hin heth ac yn farrug mae'r hen ffesant yn codi i glwydo ar y coed ac yn pwffioi blu allan a'i ben dan ei aden i gysgu ar y brigyn. Dyna pryd y byddai'r potsiar yn ei elfen gydai wn 4.10 yn eu saethu oddi ar y brigyn yn nhywyllwch nos. Buaswn yn medru enwi amryw ohonynt, (potsiars o reddf) rhai wedi'n gadael gwaetha'r modd ond ambell un yma o hyd i hel atgofion difyr iawn.


Y betrisen
Beth am y betrisen (partridge) nas gwelwn mohoni bellach yma? Mae'r betrisen yn clwydo yn un haid o wyth i ddwsin gyda'i gilydd am gynhesrwydd, ac fel adar eraill a glwyda'r un fath; a'u pennau at allan er mwyn bod â golwg am lwynog neur ffwlbart a'i debyg.

Wedi bod yn cerdded tipyn dros y Nadolig tuag ucheldir Cwm Eidda. Cerdded i fyny Ffridd Llech a chanfod efo'r "garreg orchest" a'r dyddiad 1860 er ei fod yn aneglur braidd a'r llythrennau oddi tano yn amhosib bron eu gwneud allan. Cerdded i fyny at Wely'r Lleidr a dringo mlaen trwy'r glaw i Lyn Brain Gwynion a gwneud fy ffordd yn ô heibio Blaen Eidda Ucha a throi i mewn i hel meddyliau ac i ddychmvgu sut yr oedd ers talwm pan oedd fy nheulu'n byw ynddo.

Yn rhydd tros foelydd hen swn trafaelio
Yn wir ddedwydd fe af dan freuddwydio;
Myned lle'r wy'n dymuno yw fy mraint
A haint na henaint ni theimlaf yno.

Rwyf wedi gweld amryw byd o gyfflogiaid (Woodcocks) eleni. Er iddi fod yn rhewi'n galed mae'r aderyn yma'n canfod rhyw lecyn cysgodol llaith i hel ei fwyd, a waeth pa mor galed yr hin mae'r llecynnau cysgodol yma i'w cael ar lan yr afon goediog lle mae dail yr hydref wedi disgyn a chithau'n suddo wrth dramwy drwyddynt. Yma y caiff y cyffylog ei lawnder o bryfaid genwair ac eraill. Mae'n lwmp o aderyn bychan tew bob amser. Pa le mae hwn yn clwydo? Ar y llechweddau rhedyn crin a'r eithin yn siwr gen i.

Mae'r adar sy'n clwydo ar lawr yn colli llawer o sawr neu eu haroglau sydd yn gwneud hi'n anoddach i'r hen gadno eu canfod. Mae sgrechiadau'r genawes i'w clywed weithiau yng nghefn gwlad yr adeg yma yn galw am ei chymar.

Cyn gorffen rhaid sôn am aderyn a welais i ar y seithfed o Ionawr, sef Coch y Berllan yn yr ardd gefn yma efo'r Ffesantod. Mae gennyf dair neu bedair o goed afalau, a bwydo ar flagur y rhain bydd Coch y Berllan yn y gwanwyn. Mae'n bwyta hadau ac aeron hefyd a mwy na thebyg mae mixed corn oedd ar y fwydlen heddiw efo'r Ffesantod.

Gwerinwr


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý