Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Sian Eleri Taith i'r Gambia
Hydref 2008
Petai chi'n cael y cyfle i fynd i Affrica am 'thefnos i helpu un p wledydd mwyaf difreintiedig y byd, a fyddech chi yn manteisio ar y cyfle?

I mi roedd hyn yn brofiad nad oeddwn yn mynd i'w golli.

Clywais am Cam wrth Gam (Elusen gofrestredig) drwy ffrind i mi oddeutu tair blynedd yn ôl bellach, roedd hyn yr adeg ble roedd y sefydliad yn dechrau gweithredu.

Ond ar y pryd roeddwn yn y coleg ac roedd yr arian yn brin iawn (fel pob myfyriwr!!) i mi fedru mynd ar y trip.

Ar ôl graddio yn y coleg y llynedd penderfynais gynilo'r cyflog roeddwn yn ei ennill tra'n gweithio yng nghartref Bryn yr Eglwys er mwyn galluogi mi dalu am y daith eleni.

Ac felly y buodd. Ar ôl dechrau cwrs Therapi Galwedigaethol ym Mangor eleni, ble welir un o brif egwyddorion Therapyddion Galwedigaethol fel galluogi pobl fyw yn annibynnol a hapus yn eu cymunedau, a hynny mewn ffordd ddiogel, ac sydd yn gwneud i ni barchu diwylliannau gwahanol.

Roedd mynd I'r Gambia felly yn hyd yn oed fwy o her i mi.

Prif nod Cam wrth Gam yw ceisio lliniaru tlodi a dioddefaint mewn cymunedau truenus yn Affrica, Asia a Dwyrain Ewrop.

Ni allwn achub y byd, ond fel awgryma'r enw Cam Wrth Gam, os allwn wneud gwahaniaeth mewn un gymuned fechan yna mae'n sicr yn werth pob ymdrech.

Ein bwriad fel criw Cam wrth Gam 2008 oedd cyflawni gwaith gwirfoddol mewn pentref bychan a phoblogaeth o oddeutu pum i chwe chant o bobl, o'r enw Amdallai, sydd ar y ffin rhwng Gambia a Senegal.

Trefnir y daith hon wedi i elusen gofrestredig, Action Force Africa, ofyn i Cam wrth Gam am gymorth.

Roedd Action Force Africa wedi bod yn gweithio yn Amdallai ers chwe blynedd bellach.

Roeddent wedi adeiladu meithrinfa, ac yn y broses o adeiladu ysgol ar gyfer oddeutu cant a hanner o blant.

Eu prif nod yw hyrwyddo addysg a chynhaliaeth yn y pentref anghysbell hwn, ac felly maent yn awyddus iawn i drosglwyddo'r awenau ymarferol i ddwylo eraill, fel y gallant ganolbwyntio ar brosiectau hyfforddiant.

Gan mai prif nod ni fel Cam wrth Gam yw gwneud gwaith ymarferol mewn cymunedau llai ffodus na ni, mae'r berthynas hon ag Action Force Africa yn sicr o wneud gwahaniaeth i fywydau trigolion Amdallai.

Cyn cyrraedd roeddwn yn ymwybodol fod llawer iawn o waith ymarferol yn ein disgwyl, gan gynnwys, gwneud byrddau a meinciau i blant yr ysgol, addasu storfeydd, adeiladu adeilad syml ar gyfer addysgu oedolion, a llunio adnoddau chwarae i'r plant.

Yn ogystal â hyn, bwriedir edrych i mewn i ddatrys y broblem fwyaf yn y pentref sef diffyg dŵr.

Er bod sawl pwmp llaw yno, nid ydynt yn gweithio, felly roedd rhaid i'r trigolion gario dŵr am bellteroedd maith ar ei phennau sawl gwaith mewn diwrnod er mwyn dod i ben a'r gofynion dŵr.

Cefais yr anrhydedd o wneud hyn, mae'n syndod i mi sut mae'r merched yn gallu ei wneud yn ddyddiol, tebygrwydd yw mai arferiad a fu.

Roedd y gwaith yn galed iawn ac roedd poethder y wlad yn ei gwneud yn anoddach fyth i weithio dan yr amodau.

Roedd cael pobl y pentref i helpu ni yn fantais enfawr ag yn ogystal â galluogi ni ddysgu sgiliau newydd ganddynt, ac i ni ddysgu rhai sgiliau iddynt hwythau.

Roedd eu brwdfrydedd yn y tywydd yn anhygoel o ystyried eu bod yn ymprydio.

Roedd 95% o'r pentref yn Fwslemiaid, ac felly roedd pob aelod oedd yn helpu yn ymprydio ar y pryd.

Roedd y gwaith caled ganddynt yn cael eu gwerthfawrogi gennym ni yn fawr iawn.

Yn ogystal â gwaith caled, roedd cyfle i ni gael seibiant yn y prynhawn a chyfle i gymdeithasu a rhai o'r trigolion, rhai gyda storion digri, rhai yn diddanu, a llawer iawn ohonom wedi dotio gyda'r plant bychain oedd mor annwyl a chwrtais.

Cefals i ag ElenLloyd un o'r arweinyddion y trip anrhydedd fawr y diwrnod cyntaf i ni gyrraedd Amdallai.

Cafodd merch fach ei heni, ar fraint i ni oedd y rhoddwyd yr enw Fatou Siân Elen Faye arni.

Cymerodd Elen a finnau rhan yn y gwasanaeth bedyddio ynghyd a holl weithwyr eraill Cam wrth Gam.

Daeth y gwaith caled i ben mewn trwch blewyn, roedd pwyllgor wedi bod yn y mater y byddai rhai ohonom yn gorfod aros ymlaen i sicrhau llwyddiant y broses.

Ond ar y dydd Mercher, ein diwrnod olaf, daeth popeth at ei gilydd, gweithiodd pawb yn galed iawn i weld llwyddiant yr holl waith.

Byddaf yn argymell i unrhyw berson wneud hyn gyda Cam wrth Gam.

Mae'r profiad yn un fyth gofiadwy, ac os oes gennych unrhyw ddiddordeb i fynd ar drip dyma'r wefan i chi gael y cysylltiadau www.camwrthgam.org.uk

Siân Eleri


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý