Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Y criw o Ysgol Dyffryn Conwy a'r dawnswyr o Galcutta Croeso Calcutta!
Mehefin 2004
Cafodd rhai o aelodau'r Urdd yn ysgol Dyffryn Conwy y profiad arbennig iawn o gyfarfod nifer o ferched ifanc o Calcutta mewn gweithdy a gynhaliwyd yn y TÅ· Mawr, Wybrnant brynhawn lau, Mehefin 27ain.
Roeddynt yn perthyn i grŵp o ddawnswyr o'r enw Sanved a oedd ar ymweliad â Chymru - efallai i chwi eu gweld yn cymryd rhan yng ngwasanaeth agoriadol Eisteddfod yr Urdd ym Môn. Trwy ddawnsio, maent yn tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd i blant tlawd yn yr India ond mae dawnsio yn therapi hefyd iddynt ddygymod a'u profiadau.

Maent yn byw mewn lloches i ferched yn Calcutta dan adain mudiad o'r enw Sanlaap, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn yr India. Trwy gyfieithydd adroddwyd hanes merched y lloches - rhai wedi eu twyllo i adael eu pentrefi dan addewid o waith a chael eu hunain mewn puteindai neu'n gorfod llafurio oriau meithion fel caethweision am ddim tâl o gwbl.

Roedd yn anhygoel meddwl bod y merched ifainc hapus a direidus yr olwg hyn wedi wynebu'r fath brofiadau erchyll.

Roedd eu cyfarfod hefyd yn dystiolaeth o'r gwaith da mae mudiadau fel Cymorth Cristnogol yn ei gyflawni trwy weithio law yn llaw gyda mudiadau lleol fel Sanlaap.

Ni fedrai neb warafun cyfrannu pan ddefnyddir yr arian i weddnewid bywydau plant fel sydd yn digwydd yn y llochesau hyn yn Calcutta.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý