Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Criw Yr Odyn yn cyflwyno'r papur bro i ddysgwyr Cymraeg Esquel. Dyddiadur Patagonia
Gorffennaf 2007
Daeth yn amser ffarwelio a chyfeillion Cwm Hyfryd a'r Andes a throi y bws i gyfeiriad y paith. Gyda chalon drom y gwnaem hyn oherwydd inni flasu gwres eu croeso a haelioni eu caredigrwydd.
O'm blaenau roedd taith o 400 milltir dros y paith. Taith eithaf cysurus mewn bws ond beth am y daith yma i'r arloeswyr dros gant ar ugain o flynyddoedd yn ôl. Roedd ein taith ni yn chwithig i'r hen wladfawyr gan ein bod ni'n teithio o'r mynyddoedd i lawr i'r arfordir a hwythau fel arall wrth gwrs.

Fel hyn y mae R Bryn Williams yn disgrifio'r daith yn niwedd y flwyddyn 1885:

'Yn niwedd y flwyddyn 1885 aeth naw ar hugain o'r gwladfawyr ar daith hir, buont oddi cartref am dri mis a hanner. Yn ystod y daith honno gwelsant ddyffryn mawr yng nghanol y mynyddoedd, a'i alw yn Cwm Hyfryd. O'i amgylch y mae'r mynyddoedd dan eira oesol, tair afon fawr yn ymddolennu trwyddo, a'i wyneb dan wair uchel a maethlon gyda digonedd o ffrwythau a blodau. O'r holl leoedd newydd a welsant ar y daith, hwn a apeliodd fwyaf atynt, a phenderfynwyd codi sefydliad Cymreig arall yno.

'Aeth nifer o fechgyn sengl yno i ddechrau, gan adeiladu cabannau a pharatoi lle i deuluoedd. Yna mentrodd y teuluoedd, ac mae hanes y teithiau hynny yn epig. Croesi pedwar can milltir o gyfandir a bu olwyn erioed drosto cyn hynny. Croesi'r afonydd trwy ddadlwytho a datgymalu'r wagen, a defnyddio ei gwaelod yn gwch i gario popeth drosodd. Yna rhoi'r wagen wrth ei gilydd a'i llwytho drachefn cyn mentro ymlaen. Pan ddeuent at ddibyn neu geunant, rhaid oedd gollwng y cwbwl drosodd bob yn ddarn â rhaff. Rhaid oedd mynd a'r ieir, y gwyddau, y gath a'r cŵn, y defaid a'r gwartheg i'w canlyn, gyda digon o flawd a gwenith am flwyddyn, ac ychydig gelfi. Teithient yn gyson a dygn am chwech wythnos, gan gysgu dan y wagen a dibynnu yn bennaf ar helwriaeth am fwyd.'

Erbyn hyn y mae poblogaeth fawr gymysg rhwng y mynyddoedd hyn, ond y mae Cwm Hyfryd yn dal yn Gymreig, a disgynyddion yr hen sefydlwyr dewr yn berchen amryw o ffermydd.

Fe gawn sôn am ein taith ni dros y paith y tro nesaf.

Yn y llun, uchod: Criw ardal Yr Odyn yn cyflwyno'r papur bro i ddysgwyr Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Yr Andes yn Esquel cyn ymadael ar daith y paith am drelew, Gaiman a Phorth Madryn.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý