Mae Guto ymysg 12 cyfansoddwr a roddwyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwrandawyr Radio 3, a gyflwynir gan Academi Brydeinig Cyfansoddwyr ac Ysgrifenwyr Caneuon ar y cyd â Radio 3.
Gall gwrandawyr bleidleisio ar-lein dros un o'r 12 darn, pob un yn gomisiwn gan y Â鶹Éç ac yn ddarnau a chwaraewyd am y tro cyntaf rhwng 1 Ebrill 2006 a 31 Mawrth 2007.
Darlledwyd perfformiad cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹Éç o Goncerto Guto i'r Obo ar 17 Mai.
Gellir ei glywed ar y wefan -
Meddai Guto: "Rwyf mor falch bod y Concerto i'r Obo wedi'i enwebu ar gyfer y fath wobr. Mae'n gyffrous gan fod cymaint o gyfansoddwyr ar y rhestr, gydag arddulliau a dulliau dehongli hollol wahanol i'w gilydd. Felly bydd yn ddiddorol gweld pa un y bydd y cyhoedd yn ei ffafrio."
Meddai'r Athro Thomas Schmidt-Beste, Pennaeth yr Ysgol Gerddoriaeth, "Mae cael gwaith Guto wedi'i enwebu ymysg rhai o brif gyfansoddwyr y dydd, fel Brian Ferneyhough a Michael Nyman, yn brawf pellach, petai ei angen, o'i fri cynyddol ym maes cyfansoddi cyfoes.
Braint yw cael cyfansoddwr mwyaf blaenllaw Cymru'r genhedlaeth newydd ar staff yr ysgol.
Mae penodiad Guto Puw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹Éç am dair blynedd hyd at ddiwedd 2008.
Yn ystod yr amser hwn bydd yn ysgrifennu tri gwaith, dau wedi eu comisiynu gan Â鶹Éç Radio 3 ar ran y Gerddorfa.
|