Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Y Capten Michael Edwin Hughes Dyn lleol a'r llongau trugaredd
Mawrth 2005
Mae'n siŵr fod llawer o bobl yn y Felinheli ac ym Mhenrhos yn cofio Michael Edwin Hughes.
Fe'i ganwyd a'i magwyd yn Stryd Menai, Y Felinheli, a bu'n byw am gyfnod yn Tregaron, Ffordd Penrhos, yn union gyferbyn a'i chwaer Vivienne Smith, ei gŵr John a'u teulu yn rhif 156.

Fel hogyn o'r Felin mae'r môr yn ei waed. Aeth i'r môr am y tro cyntaf yn fachgen 16 oed a chyn ymddeol roedd yn gapten llong.

Bellach mae'n byw yn Awstralia ond mae'n dychwelyd o dro i droi i Gymru ac mewn e.bost i Vivienne rhoddodd dipyn o'i hanes ar gyfer y Goriad. Meddai Michael:

"Mae gennyf atgofion gwych am bentref Y Felinheli sy'n gymaint rhan ohonof, o'r hen ysgol i'r hen longau, yn arbennig y ddwy gwch hwylio Atomic dan Eric Wyn, un o'r dynion mwyaf abl i hwylio cwch, a'r Thunderbolt yn nwylo medrus meistr hwylio arall, y diweddar John Mac a ddechreuodd yr hyn sydd heddiw yn glwb hwylio, yn fwy i bobl y tu allan i'r pentre er ei fod yn dal yn yr un lle.

Ar ôl ychydig flynyddoedd ar y môr symudais i fyw i Wellington, Seland Newydd, ond ymhen deng mlynedd roedd yr alwad i ddychwelyd i Gymru gyda'm teulu yn gryf a pha le gwell i setlo ynddo na Ffordd Penrhos yng ngolwg Eryri!

Y Capten Michael Edwin Hughs gydag un o'r llongau trugaredd sy'n rhoi gobaith i'r tlawd a'r anghennus.Ond troi'n ôl i begwn y de fu hi eto, y tro yma i Moolooaba, Queensland, Awstralia ac yno yr wyf o hyd. O dro i dro rhof amser yn swyddfa'r Mercy Ships yn ymyl Caloundra.

Yn ddiweddar treuliais chwe mis ar y llong Anastasis, prif long y Mercy Ships a hynny yn Sierra Leone, Gorllewin Affrica, y wlad dlotaf yn y byd yn ôl Y Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod fy ngyrfa hir o 50 mlynedd ar y môr dyma'r profiad mwyaf cyffrous ond hefyd profiad mwyaf dirdynnol mywyd. Gwyddwn ers tro am waith ardderchog y llongau hyn, yn rhoi gobaith a bywyd newydd i gymaint o bobl druenus drwy eu gwaith meddygol.

Ar fy niwrnod cyntaf yn Freetown gwelais filoedd o bobl yn disgwyl am oriau maith yn yr awyr agored - yn y gobaith o gael eu dewis i dderbyn llawdriniaeth na fuasent byth wedi ei gael mewn gwlad mor dlawd a di-obaith ac a ddinistriwyd gan flynyddoedd o ryfel cartref.

Yna daeth y cyfle i fod yn Birkenhead pan gyrhaeddodd Anastasis y porthladd i ddangos y fflag. Roeddwn wedi mentro rhoi galwad ffon i Ysgrifennydd Côr Meibion Caernarfon o'r llong yn Freetown a chefais addewid yn syth ganddo y buasai'r côr yn dod i bafiliwn Birkenhead i roi cyngerdd i'n croesawu. Diolch o galon iddynt am ddod fel gwirfoddolwyr eu hunain i godi calon criw arall o wirfoddolwyr! Pe buasai criw y llong wedi cael eu ffordd buasai'r côr wedi canu drwy'r nos. Roedd y cwbl yn fendigedig.

Mae'r llong ar hyn o bryd yn paratoi i adael Cotonau yn Benin a hwylio am Ghana a Liberia. Os hoffai unrhyw un gael gwybod ychwaneg o hanes y llongau hyn mae i'w gael ar safle www.mercyships.org ar y We.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý