Roedd y tîm yn fuddugol yn y rownd gyntaf, sef ysgolion Rhanbarth Gogledd Cymru, ac felly cawsant y fraint o gynrychioli Gogledd Cymru yn yr NEC.
Profiad gwych oedd cael dylunio a gwneud model o gar rasio Fl, ei weld yn cael ei rasio, a chyflwyno'r portfolio i'r beirniad. Daeth y tîm yn drydydd drwy Prydain , da iawn y 'Worldwide Racers'!
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i Jasmine Owen a Madison Khan a fu'n cynrychioli Ysgol Cae Top yng Ngala Nofio Cenedlaethol Yr Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Llongyfarchiadau hefyd i Nathan Broadhead ac i Madison Khan am ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth Gymnasteg Yr Urdd. Maent yn awr yn mynd i gynrychioli'r ysgol yn y Gystadleuaeth Genedlaethol yn Aberystwyth. Pob lwc!
Llongyfarchiadau mawr hefyd i 'Glwb Hwyl Cae Top', sef ein clwb ar ôl ysgol, a chlwb gwyliau. Cawsant wobr yn ddiweddar fel cydnabyddiaeth o'u cyfraniad i Brosiect Clybiau Plant Cymru am yr arferion da ac arloesol a welwyd yn y clwb. Mae Clwb Hwyl Cae Top hefyd yn cynnig, Clwb Brecwast, Cylch Ti a Fi, Clwb Cinio, a Chylch Meithrin. Am fwy o fanylion, cysylltwch a'r ysgol.
Adeilad newydd
Bydd adeilad newydd Ysgol Cae Top
yn Eithinog, Bangor, yn creu darpariaeth cwbl gyfoes ar gyfer yr ugeinfed ganrif ar hugain.
Fe'i chynlluniwyd ar gyfer 240 o
ddisgyblion, gyda chost o £4 miliwn.
Lleolir yr ysgol mewn ardal o ddiddordeb ecolegol arbennig ac fe'i dyluniwyd gyda hyn mewn ystyriaeth.
Mae i'r adeilad nifer o nodweddion adnewyddol gan gynnwys:-
Cyfeiriadedd yr adeilad sy'n gwneud defnydd llawn o adnoddau naturiol yn arbennig felly gyda'i ffurf siâp 'L'. Bydd
paneli solar yn ategu'r system dŵr
poeth. Defnyddir pympiau tarddiad daearol ar gyfer gwres islawr. Bydd
paneli ffotofotalig a thyrbeini gwynt yn cyfrannu at ddefnydd trydan. Ail-gylchir dŵr glaw i fflysio'r toiledau, ffenestri
mawr i roi golau dydd naturiol ac awyriad, a chasglwyr gwynt a pinellau haul i ategu hynny.
Bydd yr ysgol newydd yn gwbl hygyrch i rai gyda anabledd corfforol, ac fe osodir system taenellu dŵr er diogelwch tan.
Bydd y plant yn elwa yn addysgiadol trwy weld faint o ynni a gynhyrchir yn ddyddiol gan dechnolegau adnewyddol.
Ar y llawr gwaelod y lleolir y rhan helaeth o ystafelloedd gyda'r ystafell gyfrifiadurol a cherdd ar y llawr cyntaf.
Bydd yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer ystafell Clwb ar ôl ysgol, (sef Clwb Hwyl Cae Top) a elli ei ddefnyddio gan y gymuned ar adegau.
Ymysg cyfleusterau eraill bydd 8 dosbarth, llyfrgelloedd, ardaloedd adnoddau ymarferol, ystafelloedd newid/cotiau, prif neuadd, stiwdio gerdd, drama, ystafell gyfrifiadurol, cegin, ystafelloedd staff,
storfeydd a thoiledau.
Rydym yn edrych ymlaen symud i'n cartref newydd ddechrau mis Mehefin 2009!
Ar ôl treulio misoedd yn arwain y gweithlu yn Hafod Eryri, mae George Owen Rhoswyn, Penrhosgarnedd nawr wrthi'n brysur yn gweithio ar yr ysgol newydd ar gyfer Cae Top yn Eithinog.
Pan ymwelodd Alun Ffred Jones a Hywel Williams a safle'r ysgol ar fore oer ar ddechrau mis Ionawr sylw George oedd pa mor gynnes oedd hi o'i gymharu a Hafod Eryri ar y Wyddfa lle roedd y clychau rhew yn dewach na'r pyst sgaffaldau.