Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Aled Myrddin Aled yw llais Cymru ar ôl ennill £10,000
Mawrth 2008
Gwr ifanc a chanddo gysylltiadau cryf â Bangor a enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni.

Mae Aled Myrddin, a enillodd wobr o £10,000, yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. At hynny, mae'n briod gyda merch o Fangor, sef Erin Murphy, a'r ddau bellach yn byw ym Machynlleth.

Cân Aled, yn cael ei chanu ganddo ef ei hun, a ddenodd y nifer uchaf o bleidleisiau gan y panel arbenigwyr a hefyd gan wylwyr y rhaglen, a gafodd ei darlledu'n fyw o Ganolfan y Lido Afan, Port Talbot, ar 28 Chwefror.

Mewn cyfweliad arbennig i'r Goriad, dywed Aled, a fagwyd ym Mhorthaethwy ond sydd ar hyn o bryd yn athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Ddyfi, fod y dyfarniad wedi bod yn sioc bleserus, ac yntau'n cystadlu am y tro cyntaf.

"Roedd hi'n dipyn o sioc clywed fy mod trwodd i'r naw olaf, ac felly roedd ennill y gystadleuaeth ar y cynnig cyntaf y tu hwnt i bob disgwyl! Roeddwn i rhwng dau feddwl ynghylch cystadlu ai peidio eleni, ond dwi'n falch iawn 'mod i wedi gwneud rŵan! Dwi ddim yn siŵr iawn sawl pleidlais oedd ynddi, oherwydd roedd pleidleisiau'r panel o feirniaid yn cyfrif am 50% o'r bleidlais derfynol, ond dwi'n siŵr bod un neu ddau o ddisgyblion Ysgol Bro Ddyfi wedi ffonio!"

Daeth cân Aled, 'Atgofion', i'r brig o blith dros gant o ganeuon i gyd gan guro wyth yn y rownd derfynol. Bydd y gân yn awr yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd a gynhelir yn Donegal ddiwedd y mis hwn.

"Myfyrdod ydi'r gân ar y modd y mae atgofion am bobl neu ddigwyddiadau penodol yn pylu gydag amser, a phwysigrwydd cofnodi'r atgofion hyn mewn rhyw ffordd er mwyn sicrhau eu parhad," meddai.

Mae Aled wedi hen arfer canu - mae'n aelod o'r grŵp Cristnogol Manna, ac enillodd ar yr Unawd Cerdd Dant rhwng 19 a 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd yn 2003.

O ran dylanwadau cerddorol, dywed fod unrhyw gân sydd ag alaw dda yn apelio ato. Ond ymhlith cerddorion penodol sydd wedi dylanwadu arno y mae John Mayer, Sting a Newton Faulkner.

Ac yntau am wario'r arian ar gyfrifiadur newydd ar gyfer cyfansoddi, a rhoi'r gweddill 'yn y banc', dywed Aled fod ennill cystadleuaeth fel hon hefyd yn sbardun i gyfansoddi mwy.

O ran canu, y mae newydd recordio dwy raglen ar gyfer Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a fydd yn cael eu darlledu'n ddiweddarach yn y flwyddyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý