Agorodd Recordiau'r Cob yn
i Rhagfyr 1979 fel cangen o Recordiau'r
Cob Porthmadog, ac ar 5 Rhagfyr 2009
nodwyd y pen-blwydd mewn sawl ffordd.
Roedd cerddoriaeth yn sicr yn rhan o'r
dathliadau.
Gan i LP Pink Floyd The Wall gael ei rhyddhau ar yr union ddiwrnod yr agorodd y siop, ar ddiwrnod y pen-blwydd roedd yr albwm honno'n cael ei gwerthu ar CD am yr un pris yn union ag yr oedd yn cael ei gwerthu yn ôl yn '79.
Bu perfformiad gan Henry Priestman, canwr, gitarydd a chwaraewr allweddellau ac awdur nifer o ganeuon poblogaidd gyda grwpiau megis y Yachts,
a The Christians yn ystod yr holl gyfnod
l y bu'r siop yn agored.
Ond nid edrych yn
ôl yn unig a wnaed, oherwydd roedd
Banda Bacana, sef band diweddaraf Owen Hughes, perchennog y siop, yn chwarae hefyd.
Bwriad Owen wrth ddod i weithio i'r siop fel rheolwr cynorthwyol oedd aros am chwe wythnos, ond aeth yr wythnosau'n fisoedd ac yna'n flynyddoedd, ac yn 1995 daeth yn rheolwr ar y siop.
Heddiw, mae'n dal i
gyfuno rhedeg y siop a'i waith fel drymiwr amryfal fandiau ac fel hyrwyddwr bandiau hefyd, ac mae wrth ei fodd yn gwneud hynny.
"Mae'n wir ei bod hi'n lot caletach cynnal y busnes nag oedd hi, ond dwi'n dal i fethu coelio 'mod i mor lwcus a chael bywoliaeth o rywbeth dwi'n ei fwynhau cymaint," meddai Owen, sydd wedi gweld sawl tro ar fyd yn y diwydiant cerddoriaeth.
Yn ôl cyfrol a gafodd ei chyhoeddi y llynedd, mae dros 500 o siopau o'r fath wedi cau ym Mhrydain yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf yn unig.
Mae Recordiau'r Cob - siop Porthmadog a siop Bangor - ymhlith y rhai sy'n cael
sylw yn Last Shop Standing fel enghreifftiau o'r siopau sydd rywsut wedi goroesi yn nannedd cystadleuaeth ffyrnig o du siopau cadwyn, yr archfarchnad¬oedd a'r we.
Awdur y llyfr yw Graham Jones, dosbarthwr annibynnol a fyddai'n galw'n gyson yn siopau'r Cob yn ystod y
1980au.
Gyda'i dewis eang o gerddoriaeth - yn cael ei werthu bob amser mewn bagiau melyn - ei hawyrgylch anffurfiol braf a staff sydd bob amser yn barod i helpu, mae Recordiau'r Cob wedi dod yn dipyn o sefydliad ym Mangor.
Dylai pawb ohonom ddal i'w chefnogi fel y gall fynd ymlaen yn hyderus am y 40fed penblwydd!