Ar ôl gwneud yn sicr bod ein dwylo'n lan cychwynasom drwy bwyso'r margarine a'r siwgr cyn eu rhoi i mewn i'r fowlen ac ymhen dim o amser roedd pawb wrth eu bodd yn cymysgu y cynhwysion.
Yn wir, roedd pawb allan o wynt yn cymysgu'r gymysgedd tan ei fod yn edrych fel hufen!
Yna pwysodd pob grŵp y blawd a'i ridyllu drwy'r gogor i'r fowlen. Cafodd llawer o blant hwyl yn torri'r wyau a'u taflu i mewn i'r gymysgedd.
Yna, ar ôl cymysgu'r gymysgedd unwaith yn rhagor, cawsom ychwanegu afal, siocled neu swltana.
Rhoddodd y cogyddion y gymysgedd mewn tuniau ac yna eu gosod yn y popty.
Am ddeg munud i hanner dydd roedd y cacennau yn barod i'w dosbarthu fel pwdin ar gyfer holl blant cinio'r ysgol.
Erbyn hanner awr wedi deuddeg roedd pawb, gan gynnwys yr athrawon, wedi cael cyfle i flasu'r cacennau hyfryd.
Sylweddolom mai'r gacen siocled oedd y ffefryn gan fod mwy o ddisgyblion wedi dewis y blas yma.
Cafodd pawb a fu'n cymryd rhan yn y gweithgaredd amser gwerth chweil ac edrychwn ymlaen at gael coginio pryd o fwyd arall i blant yr ysgol rhywbryd yn y dyfodol agos.
|