Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Stereophonics Côr Gogledd Cymru
Mai 2010
Dyma ychydig rhagor o hanes y côr ers ei sefydlu yn Medi 2007 fel rhan o raglen arbrofol Codi Canu S4C.

Buom yn cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr iawn gan gynnwys Gwasanaeth Carolau Llangollen.

Hefyd gwasanaethau yng ngŵyl Carolau Cadeirlan Bangor; ar ddau achlysur; Cyngerdd Grav yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Cyngerdd Dathlu'r Gamp Fawr gyda'r Stereophonics, Heather Small a Rhydian, heb sôn am ymddangos yn fyw ar y teledu yn Iwerddon.

Buom yn canu yn gymharol ddiweddar i godi arian tuag nifer o achosion da.

Yn gyntaf at y salwch Motor Neuron gyda chantorion poblogaidd a hwyliog Colin Jones.

Hefyd codi arian mewn cyngerdd yn Amlwch tuag at Ysbyty Walton, Lerpwl.

Un o uchafbwyntiau 2009 oedd rhannu llwyfan fel rhan o ddathliad Rhys Meirion ar gyfer Gŵyl Gobaith yn Gwynsery Hall yn Y Wyddgrug diwrnod i'w gofio pan fuom yn rhannu llwyfan gyda rhai o sêr amlycaf Cymru, sef Rhys Meirion ei hun, Shan Cothi, Mark Evans ag Only Men Allowed, Ysgol Glanaethwy a Char Trelawnyd.

Y penwythnos canlynol roedd y côr yn Llanberis yn rhannu llwyfan gyda seren roc amlwg arall sef Mike Peters yr Alarm yn Snowdon Rock 3, er mwyn casglu arian tuag at Ymchwil Cancr.

Profiad anhygoel oedd canu hanner ffordd i fyny'r Wyddfa yn y glaw!!

Mae tipyn mwy o hanes y côr ond i chi i ddilyn yn y rhifyn nesaf o'r papur a chofiwch fod croeso i gantorion newydd ymuno a ni yn y pedwar llais, dim ond i chi gysylltu a chydlynydd y côr ar 01248 600678, ac fe gewch chithau fwynhau ein cwmni.

Joyce Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý