Cafodd y plant gyfle i flasu ffrwythau a llysiau gwahanol, creu
cibabs ffrwythau, peintio a thatws ac orennau a chreu siop ffrwythau yn y caban gan ddysgu pwysigrwydd bwyta'n iach. Bu hwyl garw draw yno.
Mae'r plant yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig, gan greu addurniadau lliwgar ac yn edrych ymlaen at y parti, ond yn arbennig at ymweliad Siôn Corn.
Dymuna Cylch Meithrin y Garnedd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ichi oll.
Os hoffech i'ch plentyn fynychu'r Cylch Meithrin o fis Medi 2009 ymlaen, mae'n rhaid ail-gofrestru.
Hyd yn oed os ydy'ch plentyn yn y Cylch, mae'n rhaid cofrestru mor fuan a phosib gan fod lleoedd yn brin iawn.
Cysylltwch a'r Cylch ar 07796017 771.
|