Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Mwynhau'r dawnsio gwerin Uwch Adran Bangor
Ebrill 2006
Ers dechrau Ionawr bu'r aelodau'n brysur yn ymarfer ar gyfer trio cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sy'n cael ei chynnal yn Rhuthun ddiwedd mis Mai.

Daeth cryn lwyddiant i ran yr Adran yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir a bydd yr Uwch Adran nawr yn cynrychioli Rhanbarth Eryri yng Nghystadlaethau Côr, Parti Deulais a Grŵp Llefaru i Adrannau.

Ymfalchïwn hefyd yn llwyddiant nifer o unigolion yr Adran - pob lwc i Casi Wyn, Lara Hughes a Glain Dafydd yn Rhuthun.

Diolch i Jên ac Einion Dafydd am hyfforddi'r Côr a'r Parti, i Carol Llywelyn am gyfeilio, ac i Elfed Williams am hyfforddi'r Grŵp Llefaru.

Mae'r diolch mwyaf yn mynd i'r aelodau am eu holl ymroddiad yn ystod y cyfnod yma - 'da chi'n llwyr haeddu pob llwyddiant a dymuniad da yn Rhuthun. Rydym yn falch iawn ohonoch chi.

Cafwyd cyfle i ymlacio yn dilyn holl brysurdeb yr Eisteddfodau wrth i Miss Ann Hughes, Dirprwy newydd Ysgol Y Garnedd, ddod at y criw nos Iau, 23 Mawrth, i gynnal noson ddawnsio gwerin.

Cafwyd noson hwyliog iawn, a phawb wedi mwynhau yn arw a nifer wedi cael eu siomi ar yr ochr orau. Diolch i Ann am noson mor arbennig.

Bydd y criw nawr yn canolbwyntio ar ymarfer ar gyfer Chwaraeon Cenedlaethol Uwch Adrannau'r Urdd sydd yn cael eu cynnal yn Y Bala ar 20 Mai.

Bydd tîm pêl-rwyd y marched yn amddiffyn eu coron fel Pencampwyr Cymru, a'r tîm pêl-droed yn gobeithio gwneud yn well na'r llynedd!

Rydym yn gobeithio codi nawdd ar gyfer prynu dillad addas ar gyfer y cystadlaethau yma felly byddwn yn ddiolchgar tu hwnt pe bai rhywun yn fodlon noddi'r timau neu yn gwybod am rywun fyddai a diddordeb i noddi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý