Aethant i ymweld â Chicago, Madison Wisconsin, Fort Wayne Indiana a dau bentref a chysylltiadau Cymreig agos iawn yn Ohio.
Canodd y côr yng Ngŵyl Fawr Geltaidd Chicago ac fe wnaed gymaint o argraff fel y daeth gwahoddiad yno eta gan neb llai na Maer Chicago.
Yr unawdydd efo'r côr oedd y Mezzo Soprano Eleri Owen. Hefyd cafwyd eitemau gan Bob Thomas, un o aelodau'r côr ac fe gafodd hyn dderbyniad gwresog iawn gan y dyrfa fawr a ddaeth i wrando. Fore Sul, 17 Medi, canodd y côr mewn gwasanaeth yn Eglwys y Demi Chicago - capel enfawr sydd yn rhan o adeilad sawl llawr o eiddo'r eglwys a hwnnw yn llawn i'r gwasanaeth.
Ar ôl symud i Wisconsin cafwyd amser braf iawn yn Madison, Prifddinas y dalaith ac ymweld â'r 'Capitol' ac fe ddangoswyd gwerthfawrogiad y gwrandawyr i ganu y Cymry, yn enwedig gan fod nifer o Gymry wedi ymfudo i Wisconsin yn y ddeunawfed ganrif.
Cafwyd Cyngerdd yn Eglwys Sant Dunstan. Aeth y côr ymlaen i dalaith Indiana a thref Fort Wayne lle cawsant dderbyniad gwresog iawn am bum diwrnod gan Paul a Carol Lewark, y teulu yn wreiddiol o Sir Fôn ac yn dwyn yr enw Llywarch. Cafwyd gwasanaeth a Chyngerdd arbennig yn Venedocia. Yr oedd Swyddogion Capel Gomer yn ein disgwyl ac wrth gwrs digonedd o fwyd yn y traddodiad Cymreig!
Gwelwyd nifer o lyfrau yn y Gymraeg megis llyfrau cofnodion yr Ysgol Sul ac aelodaeth y capel. Diddorol oedd ymweld â'r fynwent a gweld y Gymraeg ar gymaint o gerrig beddau.
Cafwyd Cyngerdd yn y capel a thyrfa fawr o bobl yno gan gynnwys nifer o bobl Amish, sef y sect ryfeddol sydd yn byw heddiw fel yr oeddynt ganrif a mwy yn ôl heb geir ond car a cheffyl.
Nid oedd ganddynt drydan ond lampau olew, yn gwneud eu dillad eu hunain - pobl hynod grefyddol, ddistaw a pharchus dros ben.
Yn Venedocia cafwyd croeso mawr arall, mwy o fwyd a sgwrs gan ddisgynyddion y Cymry ddaeth yno i fyw. Roedd nifer fawr o'r pentref wedi dod i gyfarfod y côr.
Rhyfeddol oedd gweld ffenestri lliw yr eglwys yn cynnwys sawl cofiant yn Gymraeg am y teuluoedd cynnar a sefydlodd y gymuned allan o'r goedwig i fod yn dir clir a ffrwythlon a hynny cyn dyddiau tractorau a pheiriannau, dim ond ceffylau a bôn braich.
Dychwelodd y côr adref ar ôl pythefnos fythgofiadwy a chroeso tywysogaidd pawb yn yr Unol Daleithiau ac wrth gwrs sawl gwahoddiad i fynd yn ôl i ganu.
Yn ystod yr ymweliad canodd y côr o dan arweinyddiaeth James Griffiths, Lowri Roberts Williams yn cyfeilio, Eleri Owen a Bob Thomas yn unawdwyr gyda Gwilym Lewis yn cyfeilio, Norman Evans yn canu unawd gyda'r côr, a David Price a Dafydd Ellis yn cyflwyno.