Does yna ddim byd gwaeth na chael eich gwrthod! Mi ddylswn i fod wedi hen arfer erbyn hyn ond er fod fy ngyrfa yn ymestyn dros bum mlynedd ar hugain mae'r ing a'r boen o'r 'NA' yn dal mor fyw ag erioed.Mae yna dri mis bellach ers i Radio Cymru benderfynu nad oedd y Cwrt Cosbi yn deilwng o ddau funud ar y cyfryngau ac er mor ddiolchgar ydw i am saith mlynedd o ddweud fy nweud mae yna fwlch enfawr yn fy mywyd, yn enwedig gan fod y Mawr a'r Bych wedi gadael cartref a Jac y Gath wedi hen fynd at y Bod Mawr.
Dwi'n eistedd yn tÅ· weithiau 'fatha Shirley Valentine yn siarad efo'r wal, yn bytheirio am annhegwch bywyd ond fel ma pob plentyn call yn gwybod 'ddeudodd y wal ddim byd wrth Wil' a mudan yw'r mur yn tÅ· ni hefyd.
Fues i'n ddigon ffodus i fod yn first pick yn yr iard bob tro roedd tîm pêl-droed yn cael ei ddewis, mater arall oedd y côr lle ddaru Mr J. R. Jones fy nhaflu allan am beidio meimio'n ddigon da yn ystod y Steddfod Gylch a chredwch neu beidio, am bedair blynedd solat mi fues i'n dawnsio gwerin efo Manon Eames.
Roedd gan Ysgol Rhiwlas wisgoedd traddodiadol a dwi'n argyhoeddedig mai dyna pam na lwyddon ni i gyrraedd y Genedlaethol heblaw am Steddfod Caergybi.
Ga'i gyda llaw, am y tro cyntaf hyd y gwn i ymddiheuro'n gyhoeddus am y rhagbrawf. Fi ddylsa fod wedi sicrhau fod y llinell yn syth, toedd hi ddim, ac roedd y promenâd yn beryglus o agos at y wal a'r gwresogydd hen ffasiwn.
Roedd ymddangosiad llwyfan mor bell â Timbactw o Twthill. Ta waeth, fi oedd ar fai. Mi gawsoch chi i gyd gam mawr ac fe symudwn ni'n mlaen.
Doeddwn ni ddim yn first pick efo'r merched chwaith. Mi dreuliodd Bryn a finnau oriau lawer yn eu trafod. Yn sicr mwy o drafod nag o erlid ac araf iawn wawriodd busnes merched arna fi, yng ngwaelod afon orffennodd yr eneth gadd ei gwrthod. Boddi mewn môr o ddryswch ac ansicrwydd nes i efo'r rhyw deg a tydi cael y'ch magu efo tri brawd ddim yn helpu, ta waeth pa mor gyfleus oedd o chwarae attack yn defence yn y cae bach ar ôl Ysgol Sul.
Dwi'n crwydro braidd a gwell i mi ddod yn ôl i le ddechreues i sef yr hwb o gael ych derbyn a'r ing o gael eich gwrthod. Dwi di treulio tri mis fatha'r ferch yn yr hysbys ers talwm a ddatganodd dros Horlicks neu rhywbeth fod gan y bachgen yna ymddangosodd yn y pictiwrs glustiau mawr beth bynnag.
Ddaeth yr un ddiod, cadarn nel fel arall, i gynorthwyo ond fe ddaeth nodyn gan y Goriad yn gofyn am gyfraniad. Oherwydd galwadau swydd newydd, achlysurol fydd o ond mae'r profiad o wybod fod bro eich mebyd yn cofio yn amhrisiadwy. Peidiwch pori gormod dros y llith, dwi'n elwa tipyn mwy na chi. Hwyl!
ON: Mi fydd Gwasg Gwynedd yn cyhoeddi cyfrol o'r Cwrt Cosbi yn ystod Eisteddfod Eryri.