Cyn codi Canolfan Newydd ar Safle Gwyddoniaeth y Brifysgol ar Ffordd Deiniol bydd peiriannau yn tyllu ymhell i'r ddaear i geisio canfod gwres. Yma y codir Canolfan Amgylchedd Cymru. Mae prif wyddonwyr y Coleg yn ffyddiog y bydd hi'n bosibl gwresogi'r ganolfan newydd am hanner can mlynedd. Y bwriad yw defnyddio ynni geothermol o'r ddaear i wresogi ac i oeri'r adeilad newydd. Bydd y peiriannau'n tyllu 400 troedfedd i'r graig a chaiff dŵr ei beipio i mewn ac allan o'r twll. Oherwydd bod y dŵr yn cael ei gynhesu yng nghrombil y ddaear, bydd hwn yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r adeiladau. Mae'r dull yma o wresogi, yn ôl yr arbenigwyr, yn arbed ynni, yn rhatach ac yn iachach o safbwynt yr amgylchedd. Ni fydd angen cymaint o waith cynnal a chadw a'r dulliau arferol. Defnyddir y math hwn o ynni ar y cyfandir ac yn America a'r dull hwn a gaiff ei osod i wresogi adeilad newydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd. Bydd y gwaith o godi'r ganolfan yn debyg o ddechrau ym Mangor yn y gwanwyn.
|