Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Capel y Ffynnon Enw newydd i hen gapel
Mawrth 2004
Mewn gwasanaeth ar nos Sul, 22 Chwefror cyhoeddwyd mai enw newydd Capel Penrallt, Bangor fydd Capel y Ffynnon.

Dewiswyd yr enw hwn yn un peth am fod ffynnon yn tarddu o dan y capel. Mewn blynyddoedd a fu, roedd yn ffynhonnell ddiogel o ddŵr i drigolion Bangor. Ond wrth gwrs, mae'r enw hefyd yn cydio yn y ddelwedd o Iesu Grist fel Dŵr y Bywyd a chred yr eglwysi mai Iesu Grist yw'r unig un all dorri syched dyfnaf calon dyn.

Bu'r Bedyddwyr Saesneg yn addoli yn yr adeilad hwn ers 1875, pryd y sefydlwyd yr achos gan aelod o Eglwys Penuel. Yn eu gwasanaeth olaf yno ar nos Sul, 22 Chwefror, trosglwyddwyd goriadau'r capel i'r Parchedig Dafydd Job, gweinidog yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg fydd yn addoli yno o hyn ymlaen.

Sefydlwyd yr Eglwys Efengylaidd ym 1985, ac am y pymtheng mlynedd diwethaf bu'n cyfarfod yng Nghanolfan Gymuned y Garth. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yno ar 7 Mawrth. Ymhlith y gwahanol weithgareddau sy'n cael eu cynnal mae cwrs 'Esbonio Cristnogaeth' i'r rhai sydd am gael gwybod mwy am beth sydd gan Iesu Grist i'w ddweud wrthym heddiw.

Mae croeso i bawb i'r gweithgareddau, a gobeithiwn y bydd Capel y Ffynnon yn dod yn enw cyfarwydd ym Mangor a'r cylch cyn bo hir. Am fwy o fanylion cysyllter â'r Parchedig Dafydd Job ar 01248 361117.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý