Daw Gwennant yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ac mae'n mwynhau
dychwelyd i'w tharddle i gael llond nosdrul o wynt yr Aran a gweld hen gyfeillion a theulu.
Mae'r gerddoriaeth yn y gwaed, gyda Gwennant yn ferch i D. P. Jones sy'n aelod o Gôr Godre'r Aran ers dros hanner canrif. Ac mae ganddi ddwy ferch ei hun - Mared Haf sy'n ddeunaw a Gwenllian Fflur sy'n naw.
Llwydda Gwennant i droi ei chariad at gerddoriaeth yn fara menyn. Hi yw Pennaeth Adran Gerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Cyn hynny bu'n teithio ysgolion Gwynedd fel athrawes y delyn. Gwennant yw Arweinydd Côr Seiriol, ac yma mae'n sôn am gychwyn y côr hynod boblogaidd: "Ffurfiwyd Parti Seiriol yn yr wythdegau cynnar o ganlyniad i griw o ffrindiau aros i weithio a byw ym Mangor ar ôl gadael y Brifysgol. Tyfodd y parti yn Gôr Seiriol yn 1991. Y flwyddyn honno enillodd y côr y wobr gyntaf ar gystadleuaeth y Côr Cerdd Dant yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn.
"Ers hynny, mae'r côr wedi ennill 7 gwaith ar gystadleuaeth y Côr Cerdd Dant a theirgwaith ar gystadleuaeth y Côr Merched yn y Genedlaethol. Rydym wedi cystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant yn ogystal dros yr un cyfnod o flynyddoedd ac wedi ennill droeon yno hefyd. Mae'r Côr wedi rhyddhau pedair cryno ddisg ers ei ffurfio; mae'r gerddoriaeth arnynt yn amrywio o Gerdd Dant i Glasurol i weithiau comisiwn gan gyfansoddwyr o Gymru megis Karl Jenkins, Gareth Glyn a Robat Arwyn."
Prysurdeb diwyd yw un o nodweddion cymeriad Gwennant. Ar y foment mae'n trefnu gosodiadau cerdd dant i nifer o blant a phobol ifanc ar gyfer Eisteddfod Yr Urdd.
Yn wir, cerdd dant yw ei hoff fath o gerddoriaeth. Ond nid oes ffiniau i'w phaled seinyddol - mae popeth o Fozart i Eva Cassidy yn atseinio drwy'r tÅ·. Ar hyn o bryd mae Gwenant wrthi'n ymarfer Sioe Gerdd gyda disgyblion Ysgol David Hughes 'Camp a Rhemp' a fydd yn cael ei pherfformio fis Chwefror.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gwenant, a'r sgript gan ei chyfeillion a'i chydweithwyr Alwen Derbyshire a Meleri Roberts.
Dyma'r dair a enillodd y wobr 'Gân i Gymru' ym 1992.
Ar gyfer y rhifyn nesaf, mae Gwennant Pyrs wedi dewis Alwen Derbyshire o'r Felinheli. Felly rydym yn chwilio am rywun diddorol ym Mhenrhosgarnedd i'w bortreadu erbyn y rhifyn nesaf. Croeso cynnes i chi gysylltu efo awgrymiadau.
|