Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Gari Wyn yn y stomp Gŵyl y Felinheli
Gorffennaf 2005
Cychwynnodd yr ŵyl gydag arddangosfa flodau yn yr eglwys. Nos Wener cafwyd hwyl a sbri yn y marquee gyda Stomp yn cynnwys dau dîm.
Roedd Gwion Hallam, Llion Darbyshire, Peredur Lynch yn nhîm Gari Wyn - a'r gwrthwynebwyr oedd Iwan Llwyd, Lyn Davies, Emlyn Gomer a Geraint Lovgreen. Arwel 'Pod' Roberts oedd yn 'cadw trefn'!

Roedd tîm Gari Wyn yn fuddugol o drwch blewyn a bu'r gynulleidfa hefyd yn brysur yn cyfansoddi limrigau doniol.

Dydd Sadwrn bu cystadleuaeth Golff ym Mangor - enillydd tlws Dafydd Vernon oedd John Pwd Owen a'i dîm; gyda'r hwyr bu'r rhai ieuengaf wrth eu bodd gyda'r wreslo. Sul - Ras Beics Eryri a Boules (naws Ffrengig oedd i'r ŵyl eleni) ar y traeth cyn cyngerdd gyda'r nos yn yr eglwys.

Côr y Brythoniaid dan arweiniad John Eifion oedd yn cymryd rhan, Ceri a Lara (y ddwy o'r Felinheli) a John Eifion yn unawdydd. Yr oedd y Cyngerdd yn ardderchog a'r eglwys wedi ei haddurno gyda blodau bendigedig, gyda themau o emyn donau.

Y gŵr gwadd oedd Dr Keith Hughes a soniodd am atgofion hapus iawn am y 'Carnifal' pan oedd o'n blentyn. Ond roedd ganddo un atgof yn dal i roi hunlle iddo, meddai, a hynny oedd cofio Al Pens mewn coets babi, efo bonat a dummy a mwstash mawr!

Mae'r Cwis ar nos Fawrth yn hen ffefryn a bu pawb heini yn rhedeg Ras y Faenol (1 Ok) nos Fercher a enillwyd gan Alun Vaughan (yn awr o'r Felin). Prin roedd o wedi cychwyn nag oedd yn ei ôl!! Yn ddiweddar roedd wedi cynrychioli Cymru mewn ras yn Ffrainc - a phawb arall yn mwynhau Sioe Ffasiynau a drefnwyd gan Margaret (siop Baffino ).

Cafwyd Sioe Ffasiynau a Dudley yn coginio paella gyda chynnyrch Afon Menai ac roedd yn flasus iawn.

Dydd Iau, yn dilyn taith yr henoed roedd Helfa Drysor. A bore dydd Gwener, Jonsi oedd yn deffro pawb gan ddarlledu yn fyw o'r Garddfon. Roedd digon o adloniant fel arfer dydd Sadwrn yn y Carnifal a'r noson fawr yn y babell gyda Los Amigos yn canu hen ffefrynnau. Daeth yr ŵyl i ben gyda Chymanfa Ganu er budd yr Eisteddfod Genedlaethol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý