Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Theatr Gwynedd Gwyl arbennig i ddramodydd
19 Mawrth 2003
Cyn hir cynhelir Gwyl sydd wedi ei threfnu gan Theatr Gwynedd i ddathlu gwaith Wil Sam, ac i gydnabod ei gyfraniad i'r Theatr yng Nghymru.

Mae'r Wyl eisoes wedi derbyn nawdd a chefnogaeth gan nifer o gwmnïau a mudiadau sy'n cefnogi'r celfyddydau yng Nghymru.

"Mae'n bur debyg fod nifer fawr wedi mwynhau sioe ddiweddar Theatr Bara Caws, 'Fel Hen Win', a oedd yn olrhain hanes Wil Sam', meddai Janice Jones, cydlynydd yr Wyl.

"Yn dilyn llwyddiant ysgubol y perfformiad hwn, fe fydd nifer o gwmnïau amateur ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cyflwyno perfformiadau o rai o ddramâu mwyaf poblogaidd y dyn ei hun yn ystod Gwanwyn a Haf 2003 fel rhan o'r Wyl.

"Bwriad y fenter hon yw rhoi lle amlwg i waith Wil Sam ar ein llwyfannau lleol, yn ogystal â datblygu a meithrin y cysylltiad rhwng y theatr broffesiynol â grwpiau drama gwirfoddol yng Nghymru".

Penllanw'r Wyl fydd cystadleuaeth wedi ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, cystadleuaeth a fydd yn gwobrwyo'r gorau o un o ddramâu byrion Wil Sam gan gwmni amateur.

Ers dros hanner canrif bellach, mae Wil Sam wedi bod wrthi'n ysgrifennu dramâu sydd wedi ei seilio ar bobl a digwyddiadau go iawn yn ei gornel ef o Eifionydd.

Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd ddramâu i'w darlledu gan y Â鶹Éç ym Mangor a bu'n un o Gwmni Theatr y Gegin yng Ngriccieth, criw a fu'n cyflwyno cynyrchiadau amrywiol yn y lleoliad hwnnw o 1963 hyd 1976.

"Yn ystod yr Wyl cewch gwrdd â chymeriadau amrywiol ac unigryw megis Crysmas Huws yn y ddrama 'Y Dyn Swllt' Bobi a Sam yn eu drama hwy: Seimon, a dderbyniodd tipyn mwy o sylw nag oedd yn ei ddisgwyl wrth geisio swyno Miss Wyn yn y ddrama 'Seimon y Swynwr' a llu o gymeriadau eraill", eglurodd Janice Jones.

Noddwyd yr Wyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffilmiau'r Nant ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm. Cefnogwyd yr Wyl gan Gymdeithas Ddrama Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Theatr Cymru a'r Adran Ddiwylliant, Cyngor Gwynedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý