Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Dafydd Gwynn "Yn India mae hyd yn oed y tlawd yn gwenu"
20 Tachwedd 2003
Profiadau Dafydd Gwynn o'i daith yn India
Javed oedd enw'r gyrrwr tacsi, a 'doedd ganddo fo ddim amheuaeth pam bod India mor ddi-drefn.
"Edrychwch arna i", meddai, gan bwyntio at ei ên. "Mae dyn balch yn siafio bob bore. Ydi hi'n edrych fel tasa hwn wedi gweld rasal yn y dyddiau diwetha"? Roedd Javed erbyn hyn yn ysgwyd ei ben, a'i fys cyhuddgar yn pwyntio at yr haid o bobl oedd yn rhwystro'r tacsi rhag symud dim pellach.

Roedd dwy awr wedi mynd er i ni adael Gwesty Namaskar ar brif bazaar Delhi, ac allen ni ddim ond gobeithio bellach gyrraedd Agra, cartre'r Taj Mahal, cyn iddi dywyllu! Gyda'r haul yn poethi a'r ffenestri ar gau i gadw'r nwyon a'r oglau drwg y tu allan, roeddan ni'n dal heb adael y brifddinas.

Roedd Javed erbyn hyn yn canu corn ei gar yn ddi-baid, ac nid y fo oedd yr unig un. Nid bod gweddill y gyrwyr ceir, bysys a rickshaws y beicwyr, y cerddwyr, y cwn, y gwartheg na'r eliffant achlysurol yn cymryd unrhyw sylw o'r swn byddarol. Yn ddyn neu anifail, roedd y naill mor ddi-glem â'r llall ynglyn â rheolau'r ffordd fawr.

"Mae 'na fai mawr ar y gwleidyddion". Ai dacsi'n sefyll yn ei unfan, aeth Javed ar gefn ei geffyl eto. "Does na ddim mis yn mynd heibio bron heb ryw etholiad neu'i gilydd. Ond pa wahaniaeth welwch chi wedyn"?

Ar ôl treulio tair wythnos yn yr India, roedd yn gwestiwn a groesodd fy meddwl fwy nag unwaith. Mi allwch chi ddarllen am dlodi, drewdod a budreddi dinas fel Delhi, ond 'dyw hynny ddim yn eich paratoi ar gyfer ei weld a'i arogli. Yn y dyddiau cynta mi basiodd y trên oedd yn mynd â ni i Shimla y slymiau ar gyrion y brifddinas. Dafliad carreg yn unig o Connaught Place, gydai MacDonalds a'i Marks & Spencer yn ddau arwydd o gynnydd i ddosbarth canol Delhi, anodd yw credu fod pobl yn dal i fyw fel anifeiliaid. Beth am y glanhawr tai bach yn Srinagar y tarfais arno wrth iddo osod ei wely am y nod drws nesa i'r sinc?

A'r gyrwyr rickshaws wedyn yn cysgu ar y palmentydd gan roi naws ddigon sinistr i dywyllwch trefi a dinasoedd. Mi godan nhw bore fore i wynebu'r frwydr ddyddiol i gael digon o arian i fwyta. Ia wir, lle mae'r gwleidyddion - ond sut a ble y gallan nhw na neb arall ddechrau ceisio newid pethau er gwell?

Roeddan ni allan o Delhi erbyn hyn, a Javed yn gallu rhoi ei droed i lawr wrth barhau i ddoethinebu. "Lle arall yn y byd gewch chi undeb i gardotwyr? Glywsoch chi erioed y fath nonsens. " Fel roedd hi'n digwydd bod, roeddwn i wedi darllen rhywbeth am hyn yn y Times of India. Hanes yr helynt pan gyflwynodd yr awdurdodau geiniogau newydd oedd yn werth y nesa peth i ddim. Mi brotestiodd yr undeb bod yr arian newydd yn rhoi esgus i bobl roi llai o gardod - ac yn wir, mi gafwyd gwared ar y ceiniogau.

Roedd Javed wedi cynhyrfu'n arw wrth adrodd y stori hon, a doedd na ddim gwell hwyliau arno fo ar ôl i ni gyrraedd Agra. Roeddwn i'n cytuno â fo pan ddwedodd ei bod hi'n anodd credu bod adeilad mor osgeiddig â'r Taj Mahal yn bodoli yng nghanol anhrefn. Hanner awr yn ddiweddarach roedd y gerddi helaeth yn ddihangfa rhag - y gwerthwyr sothach, y cardotwyr yn rhedeg ar eich hôl, a'r holl firi y tu allan.

Yn sicr maer Taj, a godwyd gan Shah Jahan yn symbol oi gariad di-derfyn tuag at yr orau oi amryw wragedd, yn haeddur ganmoliaeth maen ei chael yn yr holl lyfrau teithio. Mi gawson ni daith ddifyr o gwmpas yr adeilad yng nghwmni un or tywyswyr, a hwnnw fel roeddan ni'n gadael yn ein rhybuddio - fel pe na baen yn gwybod - ei bod hi'n bedlam yr ochr draw i'r giatiau mawr. "Ond cofiwch chi", ychwanegodd, "yn India mae hyd yn oed y tlawd yn gwenu".

Aeth yn ei flaen i egluro rhyw ychydig am y gred yn y system caste. Mae dyn yn cael ei eni i ddosbarth, meddai, ac yn derbyn mai ei rôl mewn bywyd o ganlyniad yw gwneud rhai mathau o waith yn unig. "Mae yna hapusrwydd o wybod eich lle''. Gyda hynny fe adawodd y cyfaill i dywys criw arall o dwristiaid o gwmpas y Taj.

Wnes i ddim gwrando rhyw lawer ar Javed ar y ffordd yn ôl i Delhi. Yn hytrach, mi fues i'n ystyried yr hyn a ddwedodd y tywysydd, a sylweddoli o dipyn i beth fod elfen o wirionedd yn yr hyn a oedd ganddo. Teg dweud nad oeddwn i wedi mwynhau rhyw lawer ar y profiad o fod yn yr India i ddechrau, ond mae argraffiadau yn gallu newid os dechreuwch chi chwilio am rywbeth gwahanol. Ac fel yna yr oedd hi.

Roedd rhywun yn rhy barod efallai i deimlo tosturi tuag at bobl, a sylwi, dwedwch, ar y dillad budr yn unig, gan anwybyddu'r wên oedd yn cael ei gwisgo hefyd. Mi gymerodd amser i ddod i arfer â'r wlad. Ond wrth edrych ar wynebau pobl, mae rhywun yn sylwi nad ydi'r India yn lle mor gwbl ddiobaith wedi'r cwbl. Ond peth arall, dwi'n ofni, fyddai darbwyllo Javed o hynny.

Dafydd Gwynn


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý