Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Garej sinc Y garej sinc
Tachwedd 2006
Bob tro y gwelaf arwydd fod rhywle ar werth byddaf yn breuddwydio am ei brynu, os yw'n fy mhlesio. Ers tro rwyf wedi gweld arwydd 'Ar Werth' ar ochr Trearddur o groesfan y rheilffordd yn Y Fali.
Credais mai'r clwt o dir o amgylch yr hen garej sydd yno oedd ar werth.

Bum yn symio a dod i'r penderfyniad fod y lle rhy agos at y trenau i mi godi tŷ yno a chymerai ormod o amser i mi ddygymod â'r sŵn i allu cysgu'n dawel!

Ar yr un pryd gwn y buasai'r llecyn wrth fodd y Parchedig Gareth Parry, cyn gurad Caergybi. Cafodd ef ei fagu heb fod nepell o'r rheilffordd ym Mhwllheli ac yn fychan iawn byddai'n sleifio at y dynion yn y Signal Box. Does ryfedd ei fod mor weithgar yn adfer rhai o hen reilffyrdd Cymru.

Ychydig yn ôl dyma fi'n cael llythyr gan Mr Bob Vale a beth oedd ynddo ond llun yr hen garej. Roedd wedi ei dynnu gan werthwr tai.

Hefyd disgrifiad o'r clwt; lle hwylus mewn pentref a hawl wedi ei roi i chwalu'r hen garej i adeiladu tŷ yno. Y cyfan i'w gael petai rhywun yn cynnig dros £50,000 amdano. Wedi darllen llythyr Mr Vale deallais nad unrhyw garej oedd hon, ond garej gyda hanes iddi. Pwy ar wyneb y ddaear fuasai'n credu fod yna 'hanes' i'r fath le.

Dywedodd rywbeth tebyg pan oeddwn ar fy ngwyliau yn Llyn yn ystod yr haf.

Ymwelais â hen ffrindiau a'r wraig yn mynd a fi at garej ar gwr cae wrth dalcen y tŷ.

Gwyddai'r wraig fy mod wedi ysgrifennu am gapel bach sinc a gafodd ei godi gan ffermwr o'r ardal i gynnal Ysgol Sul ynddo, a hynny'n ystod llanw diwygiad 1904.

Gellwch ddyfalu fy llawenydd pan ddywedodd mai'r garej oedd y capel bach sinc. Cefais wefr wrth gerdded i mewn iddi yn gwybod mai dyna'r fan lle dysgodd fy mam yr ABC. Roedd y wraig ar fudo at ei mab, ac erbyn hyn rwy'n deall iddi werthu ei chartref i bobl ddieithr. Yn sicr bydd can mlynedd o hanes yn mynd i ebargofiant mewn ychydig eiliadau yng nghyfrangau ryw JCB a neb mwyach yn gwybod am fodolaeth 'Capel Sinc Rhosddu'.

Petai rhywun yn gofyn i mi pa gyfnod yn hanes Prydain yr hoffwn i fyw ynddo fy ateb yn syth fyddai blynyddoedd ar ôl Rhyfel 1914-18, hynny yw, ugeiniau'r ganrif ddiwethaf. Clywais ddigon amdanynt gan fy nhad. Roedd y wyrth o gael dychwelyd adre o ffosydd Ffrainc yn gwneud pob munud yn werthfawr i wŷr ifanc y dyddiau hynny a'r awydd i ail ddechrau byw mewn byd gwell yr angerddol. Dyna'r cyfnod daeth Edmund Vale a'i ffrindiau a fu gydag ef yr Ffrainc i Fôn. Roeddynt ar ddechrau busnes, a hynny ym Miwmares.

Dyma le delfrydol i brynu a gwerthu pysgod. Yna, yn ystod yr haf cyntaf yno, ac arian yr llifo o bob cyfeiriad dechreuodd ymwelwyr o blith y dosbarth gweithiol gyrraedd Rhosneigr a Threarddur.

Sylweddolodd y criw fod Fali yn ganolog iddynt werthu eu pysgod i'r ddau le. Ar y pryd roedd darn o dir wrth y rheilffordd ar werth, a dyma hwy'n ei brynu. Gan fod y rhyfel wedi ei hymladd fel na byddai yna ryfela mwyach roedd y gwersyll milwrol yng Nghaergybi yn cael ei dynnu i lawr.

I ffwrdd â hwy yno a phrynu un o'r cabanau am £30. Bu'n raid iddynt wneud sawl siwrnai i'w gludo i Fali. Yno y mae fel garej hyd heddiw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý