Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Ann Wyn ac Eric Wyn Owen o Roscolyn Eisteddfod Gadeiriol Môn
Mai 2009
Cynhaliwyd noson arbennig yn Ysgol Gynradd Amlwch yn ddiweddar pan dderbyniwyd prif wobrau'r Eisteddfod am 2009 gan Mrs Alwen Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Cyd-ddigwyddiad ydy mai wyres enillydd y Gadair yn 1909 sy'n rhoi Cadair 2009.

Ann Wyn ac Eric Wyn Owen o Roscolyn yw noddwyr y Gadair eleni a thaid Ann, sef Caerwyn a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Amlwch yn 1909.

Crefftwr y Gadair ydy Gwynfor Owen o Landdeusant.

Mae'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers deuddeg mlynedd.

Noddwr y Fedal Ddrama yw Vaughan Prytherch, a hon yw prif gystadleuaeth gyntaf yr Eisteddfod ym mis Ebrill.

Mae'r Fedal wedi ei chynllunio a'i gwneud gan Bethan Williams, artist lleol o Laneilian sydd ar hun o bryd yn gweithio ym Mirmingham.

Cafodd Bethan ei haddysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, yng Ngholeg Technegol Bangor a Choleg Polytechnig Birmingham ble y graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gemwaith a Gwaith Gof Arian.

Enillodd Ysgoloriaeth deithio gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ar ôl iddi gyflwyno gwaith i gystadleuaeth Medal y Gymdeithas ar y pwnc 'Y Dyn Gofod Anhysbys.'

Hefyd enillodd ddwy Ysgoloriaeth deithio y Coleg Polytechnig - Ysgoloriaeth Louisa Anna ac Ysgoloriaeth George Jackson.

Yn ddiweddarach anrhydeddwyd Bethan gyda gwahoddiad gan yr Amgueddfa Brydeinig i lunio cyfres o bedair medal yn seiliedig ar Bedair Cainc y Mabinogi.

Bydd Tarian Audrey Mechell yn cael ei chyflwyno i'r actor/actores orau yn Adran Ieuenctid yr Å´yl Ddrama a Tlws Goffa Charles Williams i'r actor/actores orau.

Tlws Prif Lenor Ifanc yr Å´yl - Cyflwynwyd y Tlws yma gan Tomos Williams, un o ieuenctid yr Ynys.

Mae Tomos wedi ei eni a'i fagu yn Llanfwrog a chafodd ei addysg yn Ysgol Ffrwd Win ac Ysgol Uwchradd Bodedern cyn symud ymlaen i Goleg Menai a Phrifysgol Caeredin ble y graddiodd gyda gradd Anrhydedd mewn Dylunio.

Tomos hefyd a gynlluniodd y logo ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan y'i cynhaliwyd ym Môn yn 2004.

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio iddo'i hun ac yn ei amser sbâr mae'n ffarmio ac yn syrffio.

Noddwyr y Goron ydy Huws Eugrad Cyf, Brynteg a chynllunydd y Goron ydy John Price.

Mae John wedi ei eni a'i fagu ar gyrion Twyn 'Berffro - Llangadwaladr. Cafodd ei addysg yn Ysgol Bodorgan, Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg y Drindod, Caerfyrddin.

Treuliodd beth amser yn athro Crefft ym Machynlleth a Dolgellau.

Y Goron Eisteddfodol iddo'i llunio oedd Coron Eisteddfod Môn, Llangefni ar ddiwedd y chwedegau.

Ers hynny mae wedi llunio sawl Coron ar gyfer Eisteddfodau Môn, Llandegfan a Phowys a phedair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol gan gynnwys Coron Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym 1997 a enillwyd gan y Dr. Cen Williams, LIanfaelog.

Y llynedd cafodd ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol drwy ei wneud yn aelod o'r Orsedd.

Dydd Sadwrn yr Eisteddfod bydd Tarian Goffa Dewi Francis yn cael ei rhoi ar gyfer y gystadleuaeth Parti Unsain BI 6 ac iau. Mae'r noddwr yn dymuno bod yn ddi-enw.

Bydd enillydd y Brif Gystadleuaeth Rhyddiaith yn cael ei wobrwyo gyda Medal a noddwyd gan William Owen, Borth-y-Gest (Carreg- lefn gynt).

Awdur toreithiog a hefyd yn enillydd y Fedal Ryddiaith ei hun ac wedi bod yn lIais cyfarwydd ar 'Wedi'r Oedfa' ar y radio.

Mae hefyd yn Lywydd nos Sadwrn yr Eisteddfod. Mae'r Fedal wedi ei chynllunio gan fachgen lleol arall, sef Siôn Hughes.

Ar ôl gadael Ysgol Syr Thomas Jones cafodd Siôn yrfa lwyddiannus iawn yn y Coleg Celf a Chelfyddyd Canolog ac yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain cyn symud ymlaen i ddarlithio mewn sawl Coleg yn Ne Lloegr.

Yna fe'i apwyntiwyd yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngholeg Celf Wrecsam (Coleg Regent Street fel y'i gelwid).

Ychydig yn ddiweddarach ar ô marwolaeth y Pennaeth, fe apwyntiwyd Siôn i'r swydd. Pan sefydlwyd NEWI, bellach yn Brifysgol Glyndwr, Wrecsam, fe doddwyd y Coleg Celf yn un o Adrannau'r Brifysgol.

Mae Siôn ar hyn o bryd yn gweinyddu un o Adrannau mwyaf gweithgar y Brifysgol sydd yn ymwneud a holl waith gweledol a'r Cyfryngau Technolegol.

Bron yn fisol bydd yn teithio i Ganolfannau Addysg Uwch gwledydd fel China, India a Dwyrain Ewrop yn ogystal a gwledydd y Farchnad Gyffredin ac mae llewyrch y cysylltiad yn denu myfyrwyr a chyllid tramor i Brifysgol Glyndwr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý