Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Lôn wledig Ysbrydion yr Ynys
Ebrill 2005
Colofn WR Owen
Yn ddiweddar mae'r Parchedig Alwyn Roberts wedi cyfeirio at y gosodiad mai Ynys Môn yw'r sir gyda mwy o ysbrydion yn ein plith nag unrhyw sir arall yng Nghymru.
Bydd y Parchedig Roberts, offeiriad wedi ymddeol, yn anfon colofn bob dydd Sadwrn i'r Daily Post.

Efallai bod hyn yn wir, ond er i mi gael troedio pob cwr o'r ynys, ddydd a nos, ac wedi cael byw i gyrraedd pedwar ugain mlynedd, ni welais unrhyw beth allai fod yn ysbryd, ond clywais amryw yn sôn am ddigwyddiadau cyffrous.

Yr oedd gŵr o Drewalchmai yn cerdded adref un noswaith ar ôl cyfarfod â'i gariad, oedd yn byw yng nghyffiniau Bryngwran yma. Pan yn agosáu at fferm Cae'r Glaw fe sylwodd bod goleuni wedi ymddangos ar y ffordd o'i flaen, hithau yn noson glir. Yr oedd y gŵr yma eisoes wedi clywed sôn am 'gannwyll gorff' heb gymryd llawer o sylw ar y pryd. Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd gartref fe ganfu bod ei fam wedi marw, a hyn yn bur annisgwyl, meddai ef.

Fe glywais stori arall gan hen gymeriad o'r pentref yma, a minnau wedi dod yn bur gyfeillgar ag ef. Yr oedd newydd briodi ar y pryd hwn, ac yn byw mewn tyddyn chwe acer o'r enw Tan y Graig, Llynfaes.

Un noswaith ym mis Awst oedd hi, gyda storm o wynt y dwyrain yn achosi iddo neidio oddi ar ei feic oherwydd yr allt gerllaw Bodwina Bellaf, Gwalchmai. Wedi mynd ychydig latheni fe sylweddolodd fod rhywun yn cerdded wrth ei ochr, ac fe drodd i edrych pwy oedd yno. Gwelodd ddyn bach iawn o gorffolaeth wedi gwisgo yn debyg i weithiwr amaethyddol ac yn gwisgo het ar ei ben.

"Ydych chwi'n gweithio ar un o'r ffermydd yma", gofynnodd fy nghyfaill, ond ni chafodd ateb o gwbl gan y corach. Yn sydyn fe glywai wallt ei ben yn codi mewn braw, gan sylweddoli bod y dyn bach yn bur anghyffredin.

Wedi iddo droi i gyfeiriad Bodwina Bellaf fe aeth fy ffrind adref ar unwaith. Rhag ei dychryn ni soniodd yr un gair wrth ei briod. Byddai rhai o'r trigolion yn cyfarfod mewn efail gofaint gerllaw. Wedi iddo adrodd ei hanes yno, fe gyfaddefodd rhai o'r dynion iddynt hwythau hefyd gael cipolwg ar y dyn bach.

Wedi cyrraedd adref fe anfonais y stori hon i swyddfa'r Herald Cymraeg, Caernarfon. Y diweddar John Eilian oedd golygydd yr Herald ar y pryd, ac ymddangosodd fy stori dan y pennawd 'Bwgan Bodwina Bellaf' minnau yn anfon colofn gyson i'r Herald ar y pryd. Mewn canlyniad i hyn fe ddaeth un o swyddogion y Â鶹Éç i drafod y stori ymhellach ond yn anffodus nid oeddwn gartref ar y pryd, ac ni wn beth ddigwyddodd wedyn.

Gyda'r swyddog Â鶹Éç yr oedd y Parchedig Tom Griffiths, gweinidog Capel Hebron MC ar y pryd. Bu fy stori yn yr Herald ar 14 Medi 1976 ac ysywaeth mae cymaint o'r hen ffrindiau bellach wedi cefnu ar y fuchedd hon. Pwy a ŵyr nad ydynt yn parhau i droedio'r hen ynys annwyl?


Cyfrannwch

Owain Llyr
Sbiwch ar hwn:www.youtube.com/watch?v=fK_zOpDsztU
Wed Jan 23 07:40:27 2008

llanfachraeth
gwelais i olau llachar ac yna clywed rhiwyn yn chwerthin ond doedd neb yna
Wed Jul 11 16:30:47 2007

john rowlands a richard john, llanddeusant
mi oeddem ni ar ein ffordd o capal pan sylweddolem fod yna dau ci a dyn yn rhedag tuag at ni. pan yr oedden nhw'n dod yn agosach nath golau llachar fynd ar ei draws a diflanodd y dyn a'i ci.
Sun Sep 17 20:25:01 2006

Bodedern
Un noswaith ym Modedern cerddais i lawr London rd. a sylweddolais fod hogyn tua 11-13 oedd yn chwarae tuol, ag edrychais a roedd y hogyn hefo gwallt melyn golau a roedd yn rhedeg nerth ei troed a sgrechio am rhywbeth, felly cerddais ar ei hol a diflannodd yr hogyn.
Thu Jun 29 09:41:12 2006

Deion Backhouse Llanfaethlu
Un diwrnod haf diwethaf pan roeddwn yn plannu tatws yn y garden nath neidr dod allan ac roeddwn yn meddwl bod fi am farw. Ond wedyn sylweddolais ma yr hosepeip odd o! ond erbyn roeddwn wedi gwneud damwain yn fy nrhos ac mi rhesais ir ty gan ddweud yr hanes i mam! wedyn nath hi hel v am fath oer. Diocl am eich cymorth
Sat May 20 15:18:59 2006

Dwynwen Owen - Carreglefn
Roeddwn yn mynd heibio i gae yn Vali ac mi welais hen ddynes wyn ar ei phenegliniau yn crio. Roedd hi yn gwisgo coban wyn ac roedd braidd yn hongian arni. Cerddais heibio ar ben fy hun ac edrychais yn ol ac roedd hi wedi mynd. Efallai ysbryd oedd hi neu dynes iawn.
Thu Jan 12 09:30:03 2006

Sioned o Penysarn
Roeddwn yn dod yn nol o Fangor ac roeddwn yn dod i lawr y bryn wrth ymyl Penysarn a Dulas, y dyddiad oedd, dwi'n meddwl Awst y 13fed 2004, yn y car pan welais i ddyn ar ochr y ffordd yn tanio rhyw fath o sach, a dyma mini gwyrdd golau (dyna beth oedd y lliw gyntaf) yn mynd ar dan!!! Roedd tua tri o bobl yn rhedeg tu allan o'r mini yn trio mynd i fewn i'r car. 5:30 oedd yr amser.
Thu Jan 12 09:26:31 2006


Ydych chi wedi gweld ysbrydion ar yr Ynys?
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý