Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Llun o'r nyth Nyth Brân
Mehefin 2008

Bu Llanfachraeth a'r cylch heb gyflenwad trydan lawer gwaith yn ddiweddar.

Weithiau roeddem yn dal ein dwylo am hanner awr, ac, weithiau am oriau.

Er chwilio a phrofi'r gwifrau bu'r gweithwyr yn hir iawn cyn dod o hyd i'r troseddwr.

Brân ydoedd. Mae'n amser nythu a chafodd hen frân hyd i blatfform hwylus iawn bron ar ben un o'r polion trydan ar dir Bodlasan.

Llecyn dymunol iawn yn edrych allan dros lan môr Penial. Nid oedd y frân wedi dechrau dodwy a thynnwyd y nyth i lawr, a phawb yn Llanfachraeth yn llawenhau.

Cyn tridiau pallodd y cyflenwad trydan unwaith yn rhagor.

Ychydig wyddai'r gweithwyr am ddycnwch brân. Dros nos dechreuodd ail adeiladu ei nyth, ac unwaith eto bu'n rhaid ei dynnu i lawr.

Y tro hwn rhoddwyd darnau o haearn pigog i atal y frân rhag glanio ar y platfform.

Nid oedd brigau'r nyth yn achosi unrhyw rwystr i lif y trydan ar ddiwrnod braf, ond yn y glaw achosent gylched byr.

Diolch i Miss Mona Maelod Jones am y llun.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý