Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Dylan Roberts Achos da
Hydref 2008
"Yn fore awn i F'erwyn" ... gyda geiriau yr hen gan yn canu yn ei glustiau fore Sul, 24 Awst cychwynnodd Dylan Roberts o Gaergeiliog am Ganolfan Hamdden Y Bala.

Eleni eto, dyma oedd man cychwyn Sialens Gwyllt Walia.

Wedi profi'r wefr o gymeryd rhan y llynedd, a chwblhau y 90 milltir mewn amser boddhaol, penderfynodd Dylan herio'r uchel- diroedd eleni eto.

Er i lwybr y daith fod rhyw ddeng milltir yn fyrrach y tro hwn roedd y sialens o wynebu mynyddoedd Y Berwyn a'r Arenig yn heriol.

Profodd y beic a'r beiciwr yn ddigonol i'r her ac er godidogrwydd Penllyn, braf oedd gweld Llyn Tegid a'r llinell derfyn.

Prif amcan gwneud y sialens eleni oedd y bwriad i godi arian i Apel tÅ· Ronald McDonald, Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.

Mae'r tÅ· arbennig yma yn gartref oddi cartref i deuluoedd plant sydd yn gritigol wael.

Caiff rhieni neu warcheidwad y plant aros yma yn hollol ddi-dâl.

Nid yw tÅ· Ronald McDonald yn derbyn unrhyw grant na chymorth ariannol gan y Llywodraeth.

Eisoes bu nifer o ffrindiau yn hynod o hael a bwriedir cadw'r apêl yn agored hyd at 20 Hydref.

Cafodd aelodau o deulu Dylan y profiad o werthfawrogi TÅ· Ronald McDonald.

Symbylwyd ef ar y daith heriol hon wrth sylweddoli pa mor werthfawr yw'r cartref oddi cartref.

Er mwyn cydnabod pa mor werthfawr fu'r lloches i rieni Cian Siôn, Jac, Samuel (Sam) a Siôn, a'r llu mawr anhysbys, cefnogwch ymdrech lew Dylan drwy estyn cyfraniad i Apêl Tŷ Ronald McDonald, Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý