Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Y garreg goffa Maes Martin
Rhagfyr 2009
Cymuned yn dathlu agoriad swyddogol i faes chwarae.

Fe agorwyd estyniad i'r maes sydd er cof am yr annwyl Martin gan Tonwen, Brenhines Ffair Mechell a Mr Robin Grove-White, Brynddu, oedd wedi rhoi darn ychwanegol o dir er mwyn ehangu'r parc.

Mae wedi cymryd tair blynedd, ond o'r diwedd mae'r parc yn Llanfechell wedi ei orffen.

Gwnaed hyn yn bosibl gydag arian o Fenter Mechell, y Cyngor Cymuned, Heddlu Ategol Amlwch, Trefi Tac1us a Morrisons, Caergybi, ond mae'r diolch pennaf i Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ynghyd a'r Loteri am grant o ll £50,000 i alluogi'r gwaith gael ei gwblhau.

Gweledigaeth y diweddar Martin Owen, y Garej, oedd ail wneud y parc a bu i'r plant enwi'r parc er teyrnged a choffadwriaeth ar ei ôl.

Dadorchuddiwyd carreg hardd 'Marmor Mona' a'r geiriau 'Cyd-chwarae, Cyd-fyw' arni yn rhodd gan deulu Maes Mawr.

Mae Maes Martin yn awr yn faes chwarae amlbwrpas a lle chwarae i blant o bob oedran a rhai hÅ·n sydd yn llawn dychymig.

Fe weithiodd y criw gwirfoddolwyr a'r plant yn hynod galed yn peintio a chlirio'r safle er mwyn cael y parc yn barod i'w agor yn swyddogol.

Fe ffurfiwyd cylch ieuenctid gan Menter Mechell i orchwylio Maes Martin a bu ei brwdfrydedd yn esiampl glodwiw i'w cymuned.

Fe gynhaliwyd twrnament pêl-droed pump bob ochr i ddathlu'r achlysur a chyflwynodd Mr Mick Kemp, rheolwr Morrisons, Caergybi, fedalau i bob un o'r chwaraewyr.

Diolchwyd i bawb am eu campwaith ac am ddiwrnod llwyddiannus iawn gan y Cynghorydd Tom Jones.

Dywedodd yr Heddwas PCSO Dennis Owen fod Llanfechell yn esiampl wych o ysbryd cymunedol, yn gweithio'n dda gyda'r plant a'r bobl ifanc.

Bydd ffurfio cylch o bobl ifanc i oruchwylio'r parc yn fantais hir dymor trwy roi ymddir¬iedaeth ynddynt a meithrin balchder a rhoi ysbryd o berchnogaeth ynddynt yn eu cymuned.

Ategodd y Rhingyll Rhys Owen y dylai Llanfechell fod yn falch o ieuenctid ei bro.

Gwnewch ddefnydd addas a gofalus o'r parc plant, ac edrychwn ar ei ôl, a bydd yn gaffaeliad gwerthfawr a mwynhad pur i chwi am flynyddoedd i ddod.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý