Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Llun Nadoligaidd gan Julie Roberts Julie Roberts
Tachwedd 2004
Mae yna un peth da am Gynghorwyr Môn, beth bynnag arall ddywedir amdanynt, cefnogant arlunwyr lleol.
Gwnant hyn yn arbennig wrth i Gadeirydd y Cyngor yn flynyddol gomisiynu Cerdyn Nadolig. Llynedd gofynnodd y Cynghorydd Bessie Burns am lun gan Julie Roberts.

Cafodd y Cynghorydd Bessie Burns ei hethol unwaith yn rhagor ac mae'n ôl yn y tresi. Rwy'n sicr fy mod i'n ei hadnabod o flaen pawb arall o fro'r Rhwyd a minnau'n ei chofio hi'n dod at ei nain am wyliau i Laniestyn, Llŷn; hithau ar y pryd ond geneth ysgol.

Annibynwyr o ddechrau annibyniaeth oedd ei hynafiaid ac addolwyr brwd yng Nghapel yr Allt, Capel Rehoboth. Mynychai hithau'r capel bob haf, a ninnau i gyd yn edrych arni am ei bod hi'n 'hogan newydd' yn y capel.

(Cyfarfod gwraig o Glynnog ychydig flynyddoedd yn ôl, ac wedi iddi ddeall lle'r oeddwn i'n byw gofynnodd a oeddwn yn adnabod Bessie. Dywedais fy mod i'n ffrind iddi. Er fy mawr syndod dywedodd ei bod hi'n ei chasáu, er ychwanegodd: "Wnes i rioed ei chyfarfod hi". Allwn i ddim deall hyn hyd nes i'r wraig egluro fel y byddai Prifathro yr Y sgol Gynradd yn mynd i'w ddesg pan wylltiai wrth y dosbarth a rhoi 'llythyr-gwaith Bessie' o dan eu trwynau er mwyn iddynt geisio efelychu ei gwaith cywir a thwt. Cadwodd ei llyfrau yn ei ddesg hyd ddydd ei ymddeoliad).

Un o ardal Y Rhwyd yw Julie Roberts gyda'i diweddar nain, Mrs Annie Roberts yn chwaer i'r ddiweddar Mary Lewis (Mrs L.). Magwyd Julie yng Nghaergybi a mynychu Ysgol y Parc. Yno y cychwynnodd ei diddordeb mewn arlunio.

Datblygodd hyn yn yr Ysgol Uwchradd (Holyhead High erbyn hyn!) a dyma'r pwnc a ddewisodd yn y Coleg. Peintio tirwedd yw ei hoffter a hynny mewn dyfrliw.

Mae'n derbyn llawer comisiwn, fel llun Swtan i Gerdyn Nadolig 2003. Hefyd mae'r rhai sy'n dymuno cael llun o'u cartrefi yn gwsmeriaid da iddi. Gwel hen adfeilion a pheiriannau fferm yn wrthrychau delfrydol i'w rhoi ar gynfas. Yn ddiweddar dechreuodd arbrofi gydag olew yn ogystal â chyda phin ac inc.

Mae'n rhaid i bob artist gael man i ddangos ei waith. Rydym yn ffodus o gael Melin Llynnon ym mro'r Rhwyd gydag ystafell ddelfrydol o dan y caffi i arddangos pob math o grefftau. Mae'n siop fendigedig i werthu cynnyrch cartref. Yno ceir gwaith coed, lledr, dafedd, cŵyr, gwydr, llechen ynghyd a phethau i'w bwyta fel jam a mêl a'r cynhyrchwyr yn eu tro yn troi'n siopwyr. Mae'n fan delfrydol i Julie arddangos ei lluniau a'u gwerthu.

Mae Ynys Môn yn ffodus fod ganddi Oriel lle ceir arddangosfeydd; a siop gynhwysfawr.

(Er mor wych yw'r Oriel rwy'n dal i rygnu ymlaen am un diffyg sydd yno, sef man diogel i arddangos trysorau Môn. Yn fy llith ar Eglwys Llanfigael byddaf yn cyfeirio at y Cwpan Cymun a'r Plât a ddaeth yno yn 1574. Y cwestiwn a ofynnir imi yw, "Gawn ni eu gweld nhw?" Yr ateb plaen a roddaf fydd, "Na chewch". Af ymlaen i egluro eu bod yn 'ddiogel' yng nghrombil un o fanciau Caergybi a heb obaith gweld golau dydd byth mwyach. Y tristwch mawr yw fod yna ugeiniau o drysorau'n cael eu cadw'n 'ddiogel' a phlant Môn o genhedlaeth i genhedlaeth yn cael eu hamddifadu o'u hetifeddiaeth).

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý