Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Penmaenmawr Trychineb trên
Mai 2010
Ar nos Iau y deuddegfed o Ionawr 1899 cododd storm enfawr ar draws gogledd Cymru.

Ar yr arfordir ger Penmaen-mawr rhedai'r rheilffordd o Gaergybi i Gyffordd Llandudno yn gyfochrog bron â'r mor gyda'r cledrau'n gorffwyso ar fur enfawr a'i sylfaen ar ymyl y traeth.

Ond y noson honno roedd nerth y tonnau'n ormod hyd yn oed i gadernid yr adeiladwaith.

Gyda'r môr yn anterth ei nerth golchwyd ymaith y mur am ganllath gan adael y cledrau heb ddim i'w cynnal.

Roedd trên nwyddau ar ei ffordd o Fanceinion i Gaergybi; injan stem yn tynnu ugain o wagenni llwythog.

Tua un ar ddeg o'r gloch yr hwyr cyrhaeddodd honno yn nhywyllwch y nos.

Plymiodd yr injan ar ei phen i'r mor gan hyrddio un ar ddeg o wagenni i'w chanlyn.

Lladdwyd Edward Evans, y gyrrwr ac Owen Jones, y taniwr mewn amrantiad, y ddau o Gaergybi.

Trwy ryw wyrth arhosodd gweddill y wagenni ar y cledrau, yn cynnwys wagen y gwyliwr y tu ôl.

Yn y wagen olaf honno yr oedd dau arall o Gaergybi, sef Huw Charles, y gwyliwr a'i gyfaill Thomas Roberts; buont yn ffodus cael dihangfa o safn angau.

Er eu bod mewn dychryn, meddir, sylweddolodd y gwyliwr fod yna drên arall ar ei ffordd o Gaergybi i Lerpwl yn cludo teithwyr a nwyddau a'i bod hi ar fin cyrraedd Penmaen-bach.

Rhedodd Roberts ar hyd y lein i'w chyfarfod a rhywsut, gyda chymorth lamp goch efallai, llwyddodd i'w hatal.

Yn dilyn hynny hysbyswyd gorsafoedd Conwy a Phenmaen-mawr o'r perygl, ac yn fuan cafwyd cynhorthwy.

Yn ôl adroddiad yr arbenigwyr roedd y môr wedi symud holl sylfaen y rheilffordd mewn byr amser, oherwydd roedd trên arall flaenorol wedi trafeilio ar hyd y cledrau rai munudau ynghynt am chwarter i un ar ddeg o'r gloch y noson honno, a thua ugain munud yn ddiweddarach digwyddodd y drychineb.

Cafwyd, hefyd, bod oriawr y gyrrwr wedi stopio am bum munud wedi un ar ddeg o'r gloch, tua'r adeg y digwyddodd y ddamwain mae'n debyg.

Drannoeth darganfuwyd corff Edward Evans ar y tywod rhyw hanner milltir o'r lle; yr oedd yn 46 oed a chanddo briod ac wyth plentyn.

Roedd ei gyfaill Owen Jones, y taniwr, yn 26 oed; gadawodd yntau weddw a dau o blant ifainc.

Deuai'r naill o Ffordd Llundain a'r llall o Stryd y Bedyddwyr, Caergybi. Roeddynt yn aelodau yng nghapel Tabernacl, addoldy'r Annibynwyr yn y dref.

Yr oedd tad Owen Jones wedi treulio blynyddoedd yn beiriannydd gyda chwmni'r rheilffordd, a bu'r anffawd o golli ei fab yn ergyd drom iddo.

Crwydrai'n ôl ac ymlaen, meddir, ar hyd strydoedd y dref gan ddisgwyl clywed rhyw newydd bod corff ei fab wedi ei ddarganfod, ond yn ofer.

Trist o drychineb oedd hon.

Meirion Llewelyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý