Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Y gwcw Y Gwanwyn
10 Mawrth 2003
Colofn William R. Owen ...

A'r gwanwyn bellach wrth y drws a byd natur yn deffro wedi cwsg y gaeaf, bydd llawer o drigolion cefn gwlad yn disgwyl yn eiddgar am ddeunod y gwcw - hithau wedi bod yn bur dawel am rai tymhorau.

Bydd y wennol yn bur debyg o ddychwelyd i'n bro ac yn sicr un o'r rhai cyntaf i weled yr aderyn chwim fydd Frank Roberts, Bro Mynydd, yn ôl ei arfer.

Yr oedd Elinor Williams, Capel Gwyn gynt, wedi canu i'r wennol, ond ysywaeth mae hithau bellach wedi cefnu arnom, ninnau yn cofio ei geiriau:

"Aderyn De Affrig yn deffro
A chymryd y syniad o grwydro
I Gymru fach, fynyddig fro
A gwneud ei nyth dan y bondo."

Mae casgliad o gerddi Mathew Bach gan y diweddar T. D. H. (Lle Rhed y Bin yn yr Herald) wedi ei olygu gan John L. Williams a'i gyhoeddi yn 1974 gan Mrs Mary Jones, Caergeiliog, merch y bardd. Mewn sylwadau hynod ddiddorol gan T.D.H. fe ymddengys fod gwcw yn aderyn hoff gan Mathew, yntau wedi cyfansoddi llawer o benillion i'r aderyn hwn megis:

"Daw yma ym mis Ebrill
Bob blwyddyn yn ei thro
Hyd hanner mis Mehefin
Ac yna â ar ffo. "

Wedyn fe aiff ymlaen i sôn am Ty'n Merddyn ei hen gartref :

"Yr hen lwybr annwyl hwnnw
Na ddiystyrwch er fy mwyn,
Lle y rhodiais pan yn blentyn
Rhwng yr eithin mân a'r brwyn;
Mae'r hen garreg yno'n aros
Lle'r eisteddais i cyn hyn
Clywais lais y gwcw lwydlas
Yn y llwyn ar fin y llyn. "

Yr oedd y gwanwyn wedi cyrraedd a'r bardd yn parhau i ddisgwyl ei hoff aderyn.

Yr oedd Mathew wedi dymuno cael ei gladdu yn Eglwys Llanfair yn Neubwll ond yn ddiweddarach fe newidiodd ei feddwl ac mae'n gorwedd ym mynwent eglwys y Santes Fair, Llanfairynghornwy, nid nepell o'i ardal enedigol sef pentref bach Rhydwyn wrth droed Mynydd y Garn.

Mae ganddo gerdd ddigri am y diweddar Huw Hughes, Tai Lôn, bwthyn ar yr A5 rhwng Bryngwran a chroeslon Treban. Bu'r ddau ohonynt yn cyd-weithio i'r Cyngor Sir am ddeugain mlynedd ac fe ddywed T.D.H. bod y gerdd "Y Ddau yn Newid Lle" yn wir.

Yr oedd Huw Hughes wedi ceisio dal samon yn yr afon gyda'r tryfar, ond yn anffodus, y canlyniad, oherwydd torri'r tryfar bod pysgotwr wedi disgyn i'r afon a'r pysgodyn ar y Ian. Pan oedd y bardd yn was bach ar fferm Treflesg ei gyflog oedd punt am dymor o chwe mis - anhygoel erbyn heddiw. Un o'i gyfansoddiadau cynnar iawn oedd cerdd am fuwch oedd wedi marw tra'n bwrw llo.

Yr adeg honno yr oedd llofft stabal ar y rhan fwyaf o ffermydd Ile byddai'r gweision a'r morynion yn cysgu. Yr oedd hyn yn fendithiol iawn ar nosweithiau oer y gaeaf gan y byddai gwres yn codi oddi wrth yr anifeiliaid a gedwid is law.

Yn ystod misoedd yr haf byddai'r gweision yn treulio eu hamdden yn yr awyr agored gan ymgynnull fel arfer yn y pentref agosaf. Ond erbyn yr hydref, wedi cyrraedd uchafbwynt prysur y tymor cynaeafu, efallai y byddai chwilio am gyflogwr newydd yn y ffair galan gaeaf. Yr oedd galwadau'r Capel yn bur drwm yr adeg honno yn ogystal â'r Sul.

Byddai Cwrdd Gweddi ar nos Lun a Seiat ar nos lau heb sôn am y Gymdeithas Lenyddol yn y meysydd cerddorol a Llenyddol. Byddai gwaith y fferm yn gorffen oddeutu saith o'r gloch - chwech ar nos Sadwrn. Ni ddaeth pnawn Sadwrn yn rhydd i weithwr amaethyddol hyd at derfyn y Rhyfel Byd Cyntaf, tua 1918.

Oddeutu canrif yn ôl yr oedd yr arferiad o 'streicio' yn bur gyffredin, sef yr ymweliad â morwyn fferm drwy daflu cerrig mân at ei ffenestr gyda'r nos a chael mynediad os byddai'r streiciwr yn dderbyniol i'r ferch.

Mae un o gerddi Mathew yn cyfeirio at y math hwn o garu sef "Y Ferch o'r Berffro." Dyma ran or gerdd ...

Hiraethu'r wyf ac ochneidio
Pan yn cofio'r eneth fwyn
Cofio fel y bum i ganwaith
Yn dy ddanfon dros y twyn.

Curo'n dender ar y gwydr
Cysgu'n ysgafn iawn oedd hon
O ble doist ti yma heno?
Fyddai ei gofyniad llom.

Mae baled arall yn sôn am Sam Llain Wen, hen geffyl du o eiddo John Hughes, Llain Wen. Fe logid y ceffyl hwn gan y Cyngor Sir pan wneid y ffordd rhwng Groeslon Treban a Llanfaelog a'r baledwr ei hun yn gweithio ar y ffordd newydd.

"Ffarwel rhen Sam, dy gofio rwyf
Yn tynnu'r bwyler tar
Yn bur ddi-boen o blwyf i blwyf
A'r awen ar dy war,
Ni fedrai undyn brisio'th werth
Pan fyddai llwythi trwm,
Na neb a wyddai faint dy nerth
Wrth dynnu i fyny'r cwm. "

Llu o beiriannau moethus wedi bod yn gweithio ar y ffordd newydd bresennol ond mi gredaf ei bod yn werth cofio am yr hen drefn a'r cymeriadau annwyl o'r gorffennol.

Mae arwyddion am wanwyn cynnar eleni - ceilioges goed wedi nythu ar ben sgaffaldiau adeiladu yn ninas Lerpwl. Cyn terfyn mis Ionawr yr oedd tri o gywion wedi hedfan o'r nyth ac mae arbenigwyr yn credu nad oes hanes am ddigwyddiad cyffelyb erioed o'r blaen.

William R. Owen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý