Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Carden Nadolig Cardiau Nadolig
Ionawr 2003
Mae Edgar Jones yn edrych yn ôl ar y cardiau Nadolig a dderbyniodd y llynedd...

Gwn fod rhai o'm ffrindiau y barod yn paratoi at y Nadolig nesa nid oherwydd eu bod wedi cyfrif faint o ddyddiau siopia sydd ganddynt ond oherwydd y bargeinion sydd i'w cael yn y sêls. Does dim byd gwaeth i godi pwysau gwaed un na phrynu rhywbeth cyn y Nadolig ac yna dychwelyd i'r un siop ychydig ddyddiau yn ddiweddarach a chael y prisiau wedi llwyr ostwng.

Mae Llanfachraeth yn mynd yn fwy addurnedig bob blwyddyn ac yr wyf innau newydd brynu mwy o oleadau erbyn y flwyddyn nesaf. Ar un adeg ni fuaswn wedi cymryd y byd a gwneud y fath beth, ofergoeledd efallai, ond credwn dylai neb gymryd yn ganiataol y byddai fyw ymhen y flwyddyn. Mae hyn wedi llwyr ddiflannu o'm cydwybod yn ddiweddar wrth imi weld fy mrodyr yn y Ffydd hefo dyddiaduron pum mlynedd ac yn gwybod gyda sicrwydd lle byddant yn pregethu ar Sul arbennig yn y flwyddyn 2007. Er nid yw'r Pader wedi newid, a rydym yn dal i weddïo am ein bara beunyddiol'. Dywedodd y Frenhines hithau yn ei sgwrs ar brynhawn Nadolig mai'r unig ffordd y gall hi ddal ymlaen yw drwy godi yn y bore a wynebu'r diwrnod hwnnw, gyda nerth Duw'. .

Ddim fel yr oedd hi ...
Rydym wedi crwydro ymhell o ddyddiau ieuenctid fy mam pryd y dechreuai hi wneud mins peis a berwi pwdin ar Noswyl y Nadolig a'm taid yn mynd i winllan y Plas am foncyff i gadw'i dylwyth yn gynnes dros yr Wyl. Rwy'n dal i gofio beth ddywedai plant Ysgol Cemaes wrthyf, pan fyddai eu rhieni'n Dystion Jehofa, "Rydym yn cael derbyn presantau ond ddim yn cael eu rhoi". Felly Llanynghenedl amdani i siopa y Nadolig nesaf!

Trysorur cardiau Dolig
Fodd bynnag, rwy'n gofalu bod tymor y Nadolig yn parhau am ddeuddeng niwrnod, hynny yw, hyd Noswyl yr Ystwyll, Ionawr y pumed, a chaf bleser mawr y noson honno wrth dynnu'r cardiau i lawr a darllen yn hamddenol y negeseuau sydd ynddynt; cofio hen ffrindiau a diolch am ambell un newydd. Er mor dderbyniol yw pob cerdyn fel arfer mae un neu ddau yn mynnu tynnu sylw. Eleni eto rwy'n hoff o'r cerdyn a dderbyniais gan y Parchedig John Rice Rowlands. Llun ydyw a gafodd ei dynnu gan Pen Waugh drwy'r bwa sydd yn wal Rufeinig Caergybi, heb fod nepell o Groes Geltaidd y Mileniwm.

Mae teithwyr wedi cerdded o dan y bwa hwn am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd ac wedi syllu ar yr union olygfa a geir ar y cerdyn am dros bum can mlynedd. Heddiw mae yna ddau fwa yno, ond credir mai un mawr oedd y fynedfa wreiddiol. Byddai r farchnad yn cael ei chynnal lle mae Croes Geltaidd y Mileniwm, ac mae'r enw 'Stryd y Farchnad' yn ategu hyn.

Pan gyrhaeddais i Gaergybi ni allwn ddeall pam yr oedd y farchnad yn 'Stryd Stanley', ond eglurodd rhywun mai yr hen farchnad oedd yn 'Stryd y Farchnad'. Hefo'r anifeiliaid mor agos at y porth llydan yn y wal Rufeinig gwaith anodd oedd eu cadw o'r fynwent ac felly adeiladwyd dau fwa gyda dwy ddôr arnynt. Roedd y coed i ddal yr wyth colyn yn dal yno mor ddiweddar â'r pumdegau.

Llun eglwys hefyd a gefais gan Olygydd Y Rhwyd,. Bedyddiwr cadarn arall, (mae 'cul' yn un o'r geiriau hynny, fel 'ethnig' a 'du' i w gochel heddiw, ond gwyddoch beth ydwyf yn ei feddwl!) Rwy'n ddiolchgar ohono a minnau ers bron i hanner can mlynedd wedi troedio i Lanfair yn Neubwll.

Ei frawd yng nghyfraith, Mr Gerwyn Williams, un o 'Gyfeillion Llanfair' a dynnodd yllun, a hynny ar yr eira. Rwy'n falch fod 'Ty Main i'w weld mor glir yn y cefndir oherwydd yno y byddwn yn gadael y Mini a cherdded ar draws y caeau gyda Del y ci, a phaned Vi mor fendigedig wedi imi ddychwelyd.

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý