Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Yr awdur a'i lyfr Y Silff Lyfrau
Mehefin 2006
Hanes Eisteddfod Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o 1800 hyd 1850 gan Meirion Llewelyn Williams.
Bwriad y gyfrol newydd hon yw olrhain hanes yr Eisteddfod ym Môn am ran o ganrif gymhleth, sef o 1800-50. Ffrwyth ymchwil eang a manwl geir yma gan awdur hyddysg yn ei faes. Mae'n deall ei ffynonellau'n drylwyr ac fe'u rhestrir mewn dull ysgolheigaidd ar ddiwedd pob adran.

Ceir rhagymadrodd sy'n cyflwyno braslun o gefndir y traddodiad maith, a roes fod i'r Eisteddfod fel sefydliad sef o gyfnod Llangefni Gruffudd ap Cynan (c. 1055-1137) a Rhys ap Gruffydd (1132-97), ymlaen at Eisteddfod Fawr Caerfyrddin 1450 hyd at gyfnod Eisteddfodau Caerwys 1523 a 1567, ac yna ymlaen at Eisteddfod Machynlleth 1702 lle gwobrwywyd Siôn Pritchard Prys, prydydd o Fôn. Yn y man fe dynnwyd ef i mewn i gylch bywiog y Morrisiaid, gylch a gafodd ddylanwad grymus ar draddodiad barddol ein cenedl.

Eir ymlaen at Eisteddfodau'r Almanaciau yn y ddeunawfed ganrif ac at gyfnod llenyddol Llundain lle caed y Gymdeithas Cymraeg megis y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion. Ar ôl cyrraedd 1800 daw Benjamin Jones (Prif Arwyddfardd Môn), Caergybi i'r amlwg, gŵr blaenllaw ynglŷn â hybu Eisteddfodau cynnar yr Ynys er ei fod yn Fedyddiwr selog. Yr offeiriaid llengar oedd prif hyrwyddwyr yr Eiseddfodau yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Brwydro yn erbyn yr Eisteddfod a wnai'r rhan fwyaf o Ymneilltuwyr y cyfnod hwn.

Yna dechreuir olrhain drachefn, gyda manyldeb, Eisteddfodau swyddogol Môn gan ddechrau ag Eisteddfod Mon 1815, ac Eisteddfod y Gwyneddigion, Llangefni 1816, cyn symud ymlaen i drafod cyfres o Eisteddfodau o bwys ym Môn, ddeuddeg ohonynt.

Dangosir beth oedd cynnwys a natur y farddoniaeth, rhyddiaith a cherddoriaeth a gynhyrchwyd yn yr Eisteddfodau hyn, a gorffennir drwy gloriannu'r cyfan o gyfnod Eisteddfodau'r tafarnau hyd at gyfnod mwy parchus y llwyfannau lle ceid cerddi a beirniadaethau mwy safonol a dysgedig. Rhestrir dros 130 o brif brydyddion a cherddorion Môn, sef y rheini a oedd wedi aros yn y Sir o 1800 hyd 1850. Cynhwysir dros 80 o luniau, llyfryddiaeth faith a mynegai llawn. Dyma gyfrol swmpus mewn Cymraeg cywir a graenus ac iddi 560 tudalen; cyfrol bwysig i garwyr llên ac Eisteddfodwyr, i'r ysgolhaig a'r darllenydd cyffredin.

Fe'i hargraffwyd gan Wasg Gomer, Llandysul ac fe'i cyhoeddir gan y Dr Meirion Llewelyn Williams, 5 Cae Braenar, Caergybi. Pris yn y siopau £19.95c.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý