Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Hen Eglwys Llantrisant (Llun: Eric Hughes) Gwas Dewi
Ebrill 2004
Os cafodd Eglwys Llanddeusant ddau Sant i eiriol drosti bu'n rhaid i Eglwys Llantrisant gael tri.
Ac nid rhywun rywun ymysg y Seintiau ydynt chwaith, ond tri arbennig iawn. Un yn was i Badrig, Nawdd Sant Iwerddon, a'r llall yn was i neb llai na Dewi, ein Nawdd Sant ni. Am y trydydd, erys ei enw o hyd ar afon yn ein bro, Afon Hafran.

Mae yna ddwy Eglwys yn Llantrisant oherwydd yn 1897 penderfynwyd cael Eglwys newydd yng nghanol y plwyf gan fod yr hen ar y cyrion, ac mor agos i Eglwys Llanddeusant. Trist fu cefnu ar yr hen Eglwys a hithau fel Llanfigaelgyda'i seti bocs, pulpud yn y canol, bedyddfaen gerfiedig hardd o'r drydedd ganrif ar ddeg a chofebau gwych i uchelwyr y plwyf. Unwaith y caewyd hi daeth lladron a helpu eu hunain i'r gwaith coed hynafol, ac yn lle harddu'r cysegr troi'n gytiau ieir a chafnau defaid fu eu tynged weddill eu hoes. Mwyach nid oedd yr hen Eglwys ond megis ysgubor wag. (Beth bynnag ddywedir amdanom ni y dyddiau hyn rydym yn parchu ein hetifeddiaeth lawer gwell na'n hynafiaid).

Buasai'r hen Eglwys wedi mynd yn lawr maes oni bai i ŵr bonheddig o Dde Cymru, Mr Bulmer Thomas, briodi merch Bodior, Rhoscolyn. Ar brynhawn o haf, ac yntau ym ymweld â Melin Selar, digwyddodd weld Eglwys fach ar draws y caeau. Ar ei ffordd adre piciodd yno. Berwodd ei waed pan agorodd y drws a darganfod y fath alanastra. Yn y fan a'r lle penderfynodd gysylltu â'r gymdeithas, 'Ffrindiau Eglwysi Di-ffrindiau', a gofyn am gymorth. Rhaid diolch am eu hymdrech i atgyweirio ond roedd yn rhy hwyr. Mae'n wir i'r 'mieri' ddiflannu ond nid oedd yn bosibl iddynt ddychwelyd y 'mawredd'.

Dechreuodd Sannan ei yrfa fel gwas Dewi Sant. Pan aeddfedodd aeth i genhadu ar ei ben ei hun i Ogledd Cyrnru a sefydlu Eglwys yn Llansannan. Yna, fel llawer arall o'r Seintiau Celtaidd, ymlaen ag ef am faes cenhadol arall. Daeth i Fôn, ac i Gwmwd Llifon. Amlwg ymysg duwiau'r brodorion oedd Afran. Rhoes y duw hwn ei enw i afon, Afon Hafran. Gan fod Cristnogaeth yn grefydd gwmpasog mabwysiadwyd Afran ganddi, fel yr addaswyd 'Coed Yw y Derwyddon' i fod yn 'Goed y Seintiau' a'u gadael i ymledu dros ein mynwentydd.

Ar y pryd roedd yna fachgen o'r enw leuan yn yr ardal. Bachgen a oedd yn syndod i bawb. Ganrifoedd yn ddiweddarach ysgrifennwyd ei fuchedd, hanes ei fywyd. Gallai leuan, yn ôl y fuchedd, gyflawni gwyrthiau, yn enwedig ym myd natur. Lladdodd gannoedd o nadroedd a gyrru brain o bob cae ŷd. Pan ymwelodd Padrig â'r ardal cyflwynodd ei dad ef fel gwas iddo. Yn Iwerddon, gwlad y gwyrthiau, ni fu diwedd ar ei orchestion. Ond cyn hir penderfynodd Padrig ei anfon yn ôl i Fôn. Tybed mai cenfigen oedd wrth wraidd hyn? Protestioedd y Gwyddelod a gwrthod rhoi cwch i'r Cyrnro ifanc gan geisio ei orfodi i aros gyda hwy. Ond gwas ufudd oedd leuan a chroesodd Fôr Iwerddon ar slaban o garreg. Pan ddychwelodd i'w gynhefin roedd ei geg cyn syched â'r garthen. Trawodd y llawr â'i ffon ac yn y fan a'r lle byrlymodd dŵr o'r ddaear. Mae 'Ffynnon leuan' i'w gweld o hyd gyferbyn â phorth Mynwent hen Eglwys Llantrisant, a chyda'i dŵr grisial hi y bedyddiwyd cannoedd o blant am ganrif a hanner. (Diolch am gael byw mewn bro mor gyfoethog ei hanes).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý