Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Ann Hilyer ac Audrey Owen yn torri'r deisen pen blwydd Merched y Wawr
Awst 2009
Syndod yw sylweddoli mor sydyn mae'r blynyddoedd yn gwibio heibio ynte?

Un munud dyna lle roeddem ni - noson oer yn Chwefror '79, criw o laslancesau, mamau ifanc rhan amlaf, newydd roi'r plant yn eu gwelyau gan adael tadau petrusgar yn brefu ar ein holau, "Fyddi di'm yn hir efo'r miri Merched y Wawr 'ma, na fyddi?"

Mynd roeddem gydag ysbryd arloesol i sefydlu rhywbeth newydd - cangen Merched y Wawr yn Y Fali.

Na, fuom ni ddim yn hir y noson honno, ond diawcs, rydan ni wedi cadw ati hi byth ers hynny! Dyma ni - yr un glaslancesau ond yn ein preim bellach, ac yn dathlu 30 mlynedd efo'n gilydd.

Nos Lun, 6 Gorffennaf roedd pob un ar ei gorau ac yn barod i rocio'i socs mewn parti i ddathlu'r achlysur yn Nhafarn y Gors. Cyn tanio'r rhialtwch, manteisiodd Audrey Owen ar y cyfle i ddymuno Pen Blwydd Hapus, nid yn unig i'r gangen, ond i Marian Jones sydd hefyd yn dathlu pen blwydd arbennig, ac i ddymuno'n dda i Olwen Williams a Gwyneth Hewitson sydd ill dwy ar fin ymddeol fel athrawon ac yn cychwyn pennod newydd a chyffrous yn eu hanes.

Gwledd i'r synhwyrau oedd gweithgareddau'r noson - gwledd o fwyd blasus, gloddest o hwyl a chan yng nghwmni Hogia Bodwrog, ac ymgolli yng ngwledd yr atgofion melys o'r 30 mlynedd a fu.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cydorfoleddu yn ein llwydd¬iannau a chydwylo yn ein trychinebau; wedi difrifoli ym materion tyngedfennol ein hoes, ac ymgolli mewn digrifwch ac ysgafnder; wedi ymgynefino gyda'r zeitgeist ond heb ei ddilyn yn slafaidd; wedi canu carolau neu ddawnsio gwerin; wedi ymlafnio wrth fowlio deg a chwysu dros waith llaw; wedi hel traed, a hen hel boliau wrth gwrs, ac wedi croesawu gwesteion o bob perswad ac o bob cwr o Gymru.

Ar ddiwedd y noson diolchwyd yn gynnes iawn i Ann Hilyer am baratoi a chyflwyno teisen pen blwydd odidog i'r gangen, ac i Jean Roberts am osod blodau hardd ar y byrddau. Mavis Swain Williams, Ann Marie Le Gall, Anne Jones a Valmai Jones enillodd y gwobrau lwcus.

Byddwn yn cychwyn degawd newydd yn hanes y gangen ar 7 Medi gyda noson yng nghwmni'r ffotograffydd Pierino Algieri. Edrychwn ymlaen at 2019 - a dathlu'r 40 yn ein steil idiosyncratig ein hunain!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý