Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Tal y Llyn Tal y Llyn
Mehefin 2007
Eleni mae'r gymdeithas 'Cyfeillion Eglwysi Digyfaill' yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Cymdeithas yw hon a ddaeth i fodolaeth wedi'r Ail Ryfel Byd.
Dyma'r amser y dechreuodd y ffyddloniaid gefnu ar eglwysi ac o ganlyniad yr adeiladau'n dirywio, a neb yn poeni amdanynt. Yn Lloegr, a phob eglwys blwyf yng nghlwm a'r Senedd, aethpwyd ati i restru eglwysi y buasai gwasanaethau'n cael eu cynnal ynddynt petaent yn cael eu hatgyweirio.

Cafodd gŵr o ardal y Rhwyd, Ivor Bulmer-Thomas, Bodior, swydd fel cadeirydd i bwyllgor a apwyntiwyd gan yr awdurdodau eglwysig i gyflawni'r gwaith.

Ond yn fuan fe ddarganfod eglwysi o ddiddordeb arbennig yn dadfeilio, a llawer ohonynt heb obaith cael cynulleidfa i addoli ynddynt mwyach, ac felly heb obaith chwaith derbyn grant i'w hatgyweirio. Eglurodd i'w bwyllgor y byddai'n rhaid iddynt newid y rheol ynglÅ·n a chynulleidfa.

Ond fe wrthodwyd ei awgrymiad. Cerddodd allan mewn tymer gan ddweud y casglai ef wirfoddolwyr ei hun i wneud y gwaith. Ffurfiodd gymdeithas a galw'r aelodau'n 'Gyfeillion Eglwysi Digyfaill'.

Flynyddoedd cyn hyn yr oedd Ivor Bulmer-Thomas wedi 'darganfod' hen Eglwys Llantrisant ac yn dal i ofidio am ei chyflwr truenus. Felly doedd ryfedd mai Llantrisant oedd yr eglwys gyntaf ym Môn i gael ei mabwysiadu gan y gymdeithas newydd. Aeth eglwys Llantrisant bron yn adfail oherwydd i eglwys arall gael ei hadeiladu filltir i ffwrdd. Gan mlynedd yn ôl roedd yna chwilen i adeiladu eglwysi newydd yn lle atgyweirio'r hen rai. Gwnaed hyn yn Llanrhuddlan a Llanddeusant.

Yr eglwys nesaf ym Môn i'w mabwysiadu gan y gymdeithas oedd eglwys Tal y Llyn. Nid eglwys blwyf mohoni ond capel anwes; yn Saesneg 'Chapel of Ease'. Hynny yw eglwys oedd yn haws i rai o'r plwyfolion ei mynychu na'r eglwys blwyf. Enw gwawdlyd am eglwys o'r fath oedd 'capel y diog'.

Mewn plwyfi mawr gall eglwys y plwyf fod ymhell. Mae plwyf Llanbeulan yn un mawr, ac o'r hen herwydd adeiladwyd eglwys yn ardal fferm Tal y Llyn. Roedd fferm Tal y Llyn ei hun, gyda'r teulu a'r gwasanaethyddion, yn hanner llenwi'r eglwys. Mae eglwysi Gwredog a Rhosbeiro yn gapeli anwes hefyd.

Yn 1999 y dechreuwyd ar y gwaith o atgyweirio Tal y Llyn. Erbyn hyn mae'n werth ei gweld. Ddechrau'r flwyddyn mabwysiadwyd eglwys Llanfigael. Yn awr mae CADW yn cydweithio a'r gymdeithas ac yn hael eu cyfraniad tuag at y gost o atgyweirio.

Bu farw Ivor Bulmer-Thomas yn 1993 yn 88 mlwydd oed a'i gymdeithas wedi mabwysiadu tri deg wyth o eglwysi, gyda'u hanner yng Nghymru, ac erbyn heddiw tair ym Môn. Mawr ddiolch i'r gymdeithas o Loegr.
Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý